Mater - penderfyniadau
Employment and Workforce Quarterly Update
28/10/2021 - Employment and Workforce Quarterly Update
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad gwybodaeth am y gweithlu a’u dadansoddiad ar gyfer y chwarter cyntaf yn 2021/22.
Wrth grynhoi’r meysydd allweddol, tynnodd yr Uwch-Reolwr sylw at effaith y tueddiadau cyflogaeth sy’n newid o ganlyniad i’r pandemig a oedd yn cael eu monitro'n ofalus. Yn ogystal mae'r diweddariad yn cynnwys cynlluniau i adnewyddu'r model gwerthuso ar gyfer 2022 i ganolbwyntio yn fwy ar werthoedd a llesiant, a’r ymgyrch recriwtio sydd yn digwydd yn yr Adran Gwasanaethau Stryd a Chludiant lle’r oedd disgwyl i allu lleihau gwariant ar weithwyr asiant yn y chwarter nesaf. Yn ogystal rhannwyd wybodaeth ar y lansiad llwyddiannus y rhaglen prentisiaeth ar gyfer 2021/22.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Haydn Bateman a Geoff Collett.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 1, 2021/22 hyd 30 Mehefin 2021.