Mater - penderfyniadau
Community Safety Partnership Annual Report
28/10/2021 - Community Safety Partnership Annual Report
Cyflwynodd y Prif Weithredwr trosolwg blynyddol o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ystod y 12 mis diwethaf, a oedd yn ofyniad statudol. Fel y nodwyd yn flaenorol, roedd trefniadau llywodraethu ar gyfer y CSP wedi cael eu dynodi i’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus a roedd ei ddyletswyddau wedi eu rhyddhau drwy’r Bwrdd ‘Pobl yn Ddiogel’, y mae eu gwaith wedi ei tanategu gan y cynllun cyflenwi lleol.
Cafwyd cyflwyniad ar y cyd gan y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes (Siân Jones), Arweinydd Tîm Diogelwch Cymunedol (Richard Powell) a Chydlynydd Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Rhiannon Edwards)
· Cyd-destun
· Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol
· Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2021/22:
o Blaenoriaeth 1 - Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
o Blaenoriaeth 1 – Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn
o Blaenoriaeth 3 – Amddiffyn Pobl Ifanc Diamddiffyn
o Blaenoriaeth 4 – Amddiffyn ein Cymunedau
· Trosedd ac Anhrefn yn Sir y Fflint– sefyllfa bresennol (o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol)
· Partneriaethau Rhanbarthol
Wrth groesawu’r adroddiad a’r cyflwyniad, cynigiodd y Cynghorydd Heesom yr argymhelliad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Haydn Bateman. Bydd sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn.
Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am eu presenoldeb.
PENDERFYNWYD:
Nodi a chefnogi Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.