Mater - penderfyniadau

Findings from Independent Member Visits to Committee Meetings

09/11/2021 - Findings from Independent Member Visits to Committee Meetings

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad oedd yn crynhoi’r darganfyddiadau o ymweliadau a gynhaliwyd gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor â chyfarfodydd y Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Er y cafwyd adborth positif ar y ffordd yr oedd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal a’u cadeirio, gwnaed pedwar sylw i wella eglurder a dealltwriaeth i’r rhai oedd yn gwylio’r cyfarfodydd ar-lein.  Roedd mwyafrif yr awgrymiadau wedi cael eu rhoi ar waith ac roedd rhai’n gamau parhaus. Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r darganfyddiadau cyn eu rhannu â Chadeiryddion y Pwyllgorau.

 

Awgrymodd Gill Murgatroyd y gellid, pan fo’n bosibl, labelu Aelodau Annibynnol neu Aelodau Cyfetholedig yn briodol pan oeddent yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell i’w gwahaniaethu oddi wrth y Cynghorwyr.

 

Cynigiodd Mark Morgan y dylid rhannu’r darganfyddiadau â Chadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinwyr Grwpiau. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Rhannu’r darganfyddiadau’n ffurfiol â Chadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinwyr Grwpiau.