Mater - penderfyniadau

Community Recovery

04/11/2021 - Poverty and Vulnerability Recovery

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-Daliadau adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adferiad cymunedol, ar thema tlodi. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod gr?p tactegol wedi cael ei sefydlu yn rhan o’r gwaith ymateb i’r pandemig er mwyn ystyried effeithiau tlodi a bod yn ddiamddiffyn ar breswylwyr Sir y Fflint. Fe soniodd am y prif ystyriaethau fel y manylir yn yr adroddiad a chyfeiriodd at waith y gr?p tactegol, canlyniadau llwyddiannus, canolfan gefnogaeth Covid, taliadau hunan-ynysu, a grant caledi i denantiaid.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at y sylw yn y wasg/cyfryngau yn ddiweddar yngl?n ag eitemau’n cael eu dychwelyd i Amazon, ac awgrymodd y dylid cysylltu â warws dosbarthu Amazon ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a fyddai o bosibl yn gallu cynnig cefnogaeth i bobl mewn tlodi. Cytunodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai’n ymchwilio i hyn.

 

Roedd yr Aelodau’n cefnogi’r rhaglen waith bresennol a sefydlwyd i gefnogi ac amddiffyn preswylwyr sydd yn ddiamddiffyn neu sydd mewn tlodi, fel rhan o’r adferiad cymunedol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Vicky Perfect y Rheolwr Budd-Daliadau a’i thîm am gyflenwi 46,800 o brydau bwyd i aelwydydd oedd yn cael eu gwarchod neu’n ddiamddiffyn yn ystod y pandemig.  Fe soniodd hefyd am lwyddiant sesiynau ‘Fit, Fed and Read’ yng Nghastell Y Fflint oedd yn boblogaidd iawn.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n ag ailddiffinio gwasanaethau, fe eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod hyn yn golygu rhagor o gydweithio gyda sefydliadau partner.  Gan ymateb i gwestiwn pellach gan y Cadeirydd am gefnogaeth i bobl oedd ag ôl-ddyledion rhent, fe soniodd y Rheolwr Budd-Daliadau am y Taliad Dewisol Tai i bobl sy’n derbyn budd-daliadau, a’r Grant Caledi oedd yn rhoi cefnogaeth i denantiaid mewn llety rhent preifat. 

 

Cytunwyd y byddai dolen i gynllun cefnogaeth ôl-ddyledion rhent yn y sector preifat yn cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Gan ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â galluogi pobl sydd wedi cael eu cefnogi yn ystod y pandemig i gael eu hannibyniaeth yn ôl, fe eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod yr holl raglenni wedi’u dylunio, trwy gydweithio â sefydliadau partner, i gefnogi pobl yn ystod argyfwng Covid-19 ac i gael eu meinhau yn raddol pan fyddant yn gallu cefnogi eu hunain. 

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau’n cefnogi’r rhaglen waith bresennol a sefydlwyd i gefnogi ac amddiffyn preswylwyr sydd yn ddiamddiffyn neu sydd mewn tlodi, fel rhan o’r adferiad cymunedol.