Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 4)

13/01/2022 - Revenue Budget Monitoring 2021/22 (Month 4)

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad ac eglurodd mai dyma’r diweddariad manwl cyntaf ac roedd yn cymryd i ystyriaeth arian grant a hawliwyd drwy Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru.

 

Y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw trwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

  • Diffyg gweithredu o £0.739miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei fodloni gan gronfeydd wrth gefn)
  • Rhagwelir y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2022 yn £5.057 miliwn.

 

Y Cyfrif Refeniw Tai

·         Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.495m yn uwch na’r gyllideb;

·         Rhagwelir mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2022 fydd £3.978 miliwn.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad hefyd yn manylu’r sefyllfa fesul portffolio; amrywiadau sylweddol y mis hwnnw; cyflawni arbedion effeithlonrwydd o fewn blwyddyn; arian wrth gefn heb ei glustnodi ac arian wrth gefn wedi ei glustnodi.    Parheir i wneud hawliadau i Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru.

 

            Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn bosibl y derbynnir grantiau penodol yn ystod y flwyddyn a byddai’r Cyngor yn ystyried rhoi hwb i arian wrth gefn ble bynnag bo’n bosibl. Ar dâl, roedd trafodaethau NJC yn parhau felly gallai gynyddu.    Ar dâl i athrawon, roedd trafodaethau cenedlaethol yn parhau a byddai sylwadau parhaus yn cael eu gwneud ar gyfer cyllid ychwanegol i gwrdd â chostau ychwanegol, er os byddai’n aflwyddiannus ac yn seiliedig ar gynnydd o 1.7%, byddai 0.7% yn cael ei ariannu drwy grant gyda’r 1% yn weddill yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y Cyngor ac ysgolion.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r cyfleuster yn Yr Wyddgrug i helpu gyda lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ar gael erbyn yr haf 2022.    

 

Gofynnodd yr Aelodau i adroddiad gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar yr effaith ar breswylwyr yn sgil dileu’r £20 ychwanegol o dâl Credyd Cynhwysol. 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr adroddiad a’r effaith ariannol a amcangyfrifir ar gyllideb 2021/22 yn cael ei nodi a

 

 (b)      Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar yr effaith ar breswylwyr yn sgil dileu’r £20 ychwanegol o dâl Credyd Cynhwysol.