Mater - penderfyniadau

Declaration of Diversity in Democracy

11/05/2022 - Declaration of Diversity in Democracy

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gefnogi mewn egwyddor i Ddatgan Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd fod gofyn i bob un o’r 22 prif gynghorau yng Nghymru i wneud Datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth. 

 

Gwahoddwyd y Cyngor Sir i adnabod pwysigrwydd hyn ac i ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu i wella amrywiaeth mewn democratiaeth yn Sir y Fflint. Pe bai’r Cyngor yn cytuno byddai Datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn cael ei wneud mewn egwyddor ac yna byddai gwaith manwl yn cael ei wneud i greu Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth Sir y Fflint i gael ei weithredu gan y pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad. 

 

Wrth siarad mewn cefnogaeth i Ddatganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth Sir y Fflint, cynigodd y Cynghorydd Christine Jones yr argymhellion yn yr adroddiad hwn a’u heiliwyd gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Mynegodd y Cynghorydd Neville Phillips bryderon yngl?n â chynigion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyflwyno ‘grantiau adsefydlu’ i gynghorwyr os fyddan nhw’n colli eu seddi mewn etholiad. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y cynnig yn rhywbeth i ‘anelu ato’ ar hyn o bryd ond heb ei gadarnhau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies fod angen rhoi caniatâd i gynghorwyr sydd mewn cyflogaeth i gael amser i ffwrdd o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd yn ystod eu gwasanaeth cyhoeddus. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod darpariaeth yn barod i alluogi cyflogwyr i roi amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith i gynghorwyr fynychu cyfarfodydd. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod fod rhai cyflogwyr yn fwy cefnogol nag eraill.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylai’r Cyngor ofyn i CLlLC holi am ddatganiad i gael ei arwyddo gan gyflogwyr yn rhoi caniatâd i’w cyflogeion i gael amser i ffwrdd gyda thâl er mwyn gallu cyflawni gwasanaeth cyhoeddus.  Dyma fo hefyd yn awgrymu y dylid adolygu arferion y Cyngor ei hun i ystyried os oes posib gwella trefniadau ar gyfer cyfarfodydd/gweithdai i gynghorwyr sydd mewn cyflogaeth. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey ei bod hi’n cefnogi sylwadau’r Cynghorydd Roberts. 

Derbyniodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin yr argymhelliad i ysgrifennu at CLlLC fel ychwanegiad i’r cynnig cadarn ac fe gafodd ei gario pan gyflwynwyd hynny i’r bleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cyngor yn cydnabod y pwysigrwydd o amrywiaeth mewn democratiaeth ac wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu i wella amrywiaeth;

 

b)         Bod y gwaith manwl i greu’r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth Sir y Fflint yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad; a

 

 (c)       Bod y Cyngor yn ysgrifennu at CLlLC yn gofyn am ddatganiad i gael ei arwyddo gan gyflogwyr yn rhoi caniatâd i ryddhau cyflogeion ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus.