Mater - penderfyniadau

Amendments to the Rules of Procedure

11/05/2022 - Amendments to the Rules of Procedure

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ystyried y Protocol o Reolau’r Weithdrefn ddiwygiedig. Cynghorodd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Medi bod y Cadeirydd wedi cytuno i’r newidiadau dros dro i rai o’r Rheolau, a dosbarthwyd y rhain.  Byddai Cyfarfodydd Presenoldeb o Bell yn parhau wrth i’r Cyngor symud tuag at ‘gyfarfodydd aml-leoliad’ sydd yn ofyniad yn y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’r hyn oedd yn newidiadau dros dro bellach angen cael eu mabwysiadu yn ffurfiol gan y Cyngor wrth i’r Cyngor ddatblygu polisi ar gyfarfodydd aml-leoliad. Cefnogwyd y newidiadau i Reolau’r Weithdrefn o fod yn rhai dros dro i rai parhaol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad yn ei gyfarfod ar 30 Mehefin 2021. 

 

Cynghorodd y Prif Swyddog fod y Ddeddf yn gofyn i’r Cyngor ddatblygu a chyhoeddi ei bolisi ar ba gyfarfodydd a fyddai’n cael eu cynnal mewn person, o bell neu fel cyfarfod hybrid, a byddai’r rheolau yn berthnasol i bob un.  Byddai’r Cyngor angen datblygu ei bolisi ‘cyfarfodydd aml-leoliad’ ei hun cyn Mai 2022. Byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad, ac i’r Cyngor. 

Wedi’i atodi i’r adroddiad oedd y newidiadau sydd angen eu hymgorffori yn Rheolau’r Weithdrefn i’w gwneud nhw’n berthnasol i gyfarfodydd aml-leoliad.

 

Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Neville Phillips a’u heiliwyd gan y Cynghorydd Rob Davies, a’u cymeradwywyd wedi pleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cyngor yn ystyried a chymeradwyo’r newidiadau i Reolau’r Weithdrefn fel y gwelir yn atodiad 1; a 

 (b)      Bod gwaith pellach yn cael eu gwneud i ddatblygu polisi Sir y Fflint ar gyfarfodydd aml-leoliad.