Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Outturn) and Capital Programme Monitoring 2020/21 (Outturn)

08/10/2021 - Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Outturn) and Capital Programme Monitoring 2020/21 (Outturn)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid (Gwasanaethau Corfforaethol) a’r Rheolwr Cyllid (Technegol, Cyfalaf a Systemau) adroddiad ar Fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Alldro) a'r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Alldro) cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Roedd yr adroddiad yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf yn ymwneud â cheisiadau a wnaed i Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) a ffrydiau cyllido Colli Incwm a oedd wedi profi’n bwysig iawn drwy gydol y cyfnod o argyfwng.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu fod yna £2.185m dros ben (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a oedd wedi ei ddiwallu o’r cronfeydd wrth gefn) gan adael balans yn y gronfa arian at raid o £5.973m.Rhoddwyd eglurhad ar y rhesymau dros y symudiad net ffafriol o’r mis blaenorol, fel nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn bennaf yn fuddion un tro. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau ariannol allweddol, cyflawniad arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn a’r sefyllfa o ran arian wrth gefn a balansau fel y nodwyd yn yr adroddiad. O ran cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, ac mewn ymateb i sylwadau blaenorol, roedd y cynnydd mewn balansau gwasanaethau (y gofynnwyd amdano ar gyfer defnydd penodol ac a rannwyd ar draws portffolios) yn bennaf o ganlyniad i oedi mewn gwariant o ganlyniad i’r sefyllfa o argyfwng.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant arfaethedig o £2.866m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £4.875m, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant. Byddai’r cyfraniad cynyddol i gronfeydd wrth gefn yn 2020/21 yn ariannu ail-osod y gwaith cyfalaf a ddisgwylir nawr yn 2021/22 a byddai’n gwrthbwyso unrhyw fenthyca yn y dyfodol a fyddai’n gysylltiedig â’r gwaith hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Jones, eglurodd swyddogion fod oedi mewn caffael uwchraddio caledwedd Teledu Cylch Caeëdig o fewn yr adran Gwasanaethau Stryd a Chludiant wedi achosi symudiad niweidiol a byddai’n cael ei wario fel swm a ddygwyd ymlaen yn y flwyddyn ariannol hon.O ran y diffyg o ran casglu Treth y Cyngor yn ystod yr argyfwng, roedd cyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi ei neilltuo fel amddiffyniad a byddai’n cael ei adolygu yn erbyn dyledion gwael posibl yn y dyfodol, gydag unrhyw effaith gadarnhaol yn cael ei gadw yn y cronfeydd wrth gefn.

 

Y Rhaglen Gyfalaf

 

Y cyfanswm ar gyfer y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 oedd £66.236m, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen a’r arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen.Roedd newidiadau yn ystod y chwarter olaf yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb. Roedd gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn yn £62.915m a oedd yn 94.99% o’r gyllideb gan adael tanwariant o £3.321m a argymhellwyd i’w ddwyn ymlaen ar gyfer cwblhau cynlluniau yn 2021/22. Hefyd adroddwyd manylion yr arbedion a nodwyd yn ystod y chwarter olaf a’r sefyllfa ariannol o ran gweddill cyffredinol o £1.968m ar gyfer y rhaglen dair blynedd a fyddai’n arwain at falans agoriadol o £2.112m yn rhaglen 2021/22.

 

RRhoddodd swyddogion eglurhad i’r Cynghorwyr Patrick Heesom a Haydn Bateman ar arbedion a nodwyd yn y chwarter olaf o ddymchwel Neuadd y Sir yn rhannol a Phrosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.

 

Gofynnodd Richard Jones am i’r penderfyniad adlewyrchu ei gais blaenorol am adolygiad o falansau gwasanaethau.Ar sail hynny cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ar ôl ystyried yr adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/21 (Alldro), fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes yna unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet ar wahân i’r adolygiad o falansau gwasanaeth; ac

 

 (b)      Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Alldro), fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.