Mater - penderfyniadau
Schedule of Remuneration for 2021/22
11/05/2022 - Schedule of Remuneration for 2021/22
Fe gyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2021/22. Cynghorodd fod y Cyngor angen darparu Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol yn flynyddol a bod yr Atodlen ar gyfer 2021/22 wedi’i atodi i’r adroddiad. Roedd yn rhaid ei gyhoeddi a’i anfon i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn 31 Gorffennaf.
Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yna dair swydd gyfetholedig yn wag ar hyn o bryd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Derbyniwyd enwebiadau a byddai etholiad yn cael ei gynnal yn fuan.
Gofynnwyd i’r Cyngor awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enwau’r aelodau cyfetholedig ar yr Atodlen a’i ailgyhoeddi fel bo’r angen ac i wneud unrhyw newidiadau pellach i’r Atodlen wrth iddyn nhw godi.
Cynigiodd y Cynghorydd Billy Mullin i gymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Paul Shotton.Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Tâl ar gyfer 2021/22 sydd ynghlwm yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; ac
(b) Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enwau’r aelodau cyfetholedig ar yr Atodlen a’i ailgyhoeddi fel bo’r angen ac i wneud unrhyw newidiadau pellach i’r Atodlen wrth iddyn nhw godi.