Mater - penderfyniadau
Capital Programme Monitoring 2020/21 (Outturn)
21/12/2021 - Capital Programme Monitoring 2020/21 (Outturn)
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa alldro derfynol ar gyfer 2020/21 ynghyd â’r newidiadau a wnaed i'r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter olaf.
Bu gostyngiad net o £10.726m yng nghyllideb y Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter diwethaf a oedd yn cynnwys:
· Gostyngiad net o £3.996m yn y rhaglen - £4.082m yng Nghronfa’r Cyngor a £0.086m yn y Cyfrif Refeniw Tai
· Swm dwyn ymlaen net o £4.352m hyd 2021/22
· Arbedion ar y pwynt Alldro o £0.650m .
Gwir wariant yn y flwyddyn oedd £62.915m Y gwarged cyllido alldro o Raglen Gyfalaf 2021/22 oedd £1.968m.
Cymeradwywyd Rhaglen Gyfalaf 2021/22 – 2023/24 ar 8 Rhagfyr 2020, gyda diffyg cyllido o £1.317m. Yn dilyn y setliad llywodraeth leol terfynol, derbyniodd y Cyngor gyllid ychwanegol a arweiniodd at sefyllfa o warged o £0.144m i'r rhaglen dros y cyfnod o dair blynedd. Byddai dwyn y gwarged hwn ymlaen yn arwain at sefyllfa gyllido agoriadol o warged o £2.112m cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu arian o ffynonellau ariannu eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad;
(b) Cymeradwyo’r ceisiadau i ddwyn arian ymlaen.