Mater - penderfyniadau

Business Rates – Write Offs

13/01/2022 - Business Rates – Write Offs

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Rheolau Gweithdrefn Ariannol (adran 5.2) angen i’r Cabinet gymeradwyo unrhyw argymhellion i ddileu  dyledion dros £25,000.

 

            Roedd dyled Ardrethi Busnes £103,150 yn cael ei ystyried yn anadferadwy i Arcadia Group Plc. Roedd y cwmni wedi’i roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Rhagfyr 2020 gyda dyledion dros £800miliwn yn ddyledus i gredydwyr a gyda £510miliwn o ddiffyg yng nghronfa bensiynau’r cwmni.

 

            Roedd y cwmni wedi’i Ddiddymu o fis Gorffennaf 2021.  O ganlyniad, byddai yna lai neu ddim asedau ar gael ar gyfer credydwyr na ffefrir. Nid oedd yn bosibl bellach adfer y dyledion ardrethi busnes yn llwyddiannus ac roedd angen diddymu’r dyledion.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i’r Cyngor na’r trethdalwyr lleol drwy ddileu’r ddyled hon gan fod colledion ardrethi busnes yn mynd i’r Gronfa Genedlaethol yng Nghymru.  Gan mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gronfa honno, roedd diffyg talu ardrethi yn golygu effaith ehangach ar drethdalwyr yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod diddymu’r ddyled o £103,150 o ardrethi busnes ar gyfer Arcadia Group Plc yn cael ei gymeradwyo.