Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )
17/02/2022 - Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 7 Rhagfyr 2021. Dywedodd y bydd gweithdy ar y strategaeth trafnidiaeth integredig ar 14 Rhagfyr, a bod gwahoddiad wedi’i anfon at bob Aelod.
Gofynnodd y Cynghorydd Sean Bibby am gynnwys eitem ar gasgliadau gwastraff swmpus ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gamau gweithredu cyfarfodydd blaenorol ac eglurodd fod cynnydd camau gweithredu hirdymor yn parhau ac yn cael ei fonitro, a bydd gwybodaeth ar gael ar ôl eu cwblhau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at y cam gweithredu sy’n ymwneud â Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon, sydd wedi bod ar y gweill ers mis Mehefin 2021, a gofynnodd am gytuno ar ddyddiad cau ar gyfer ymateb. Cytunodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) i holi ynghylch yr amserlenni a darparu ymateb. Dywedodd fod y cam gweithredu mewn perthynas â’r Strategaeth Toiledau wedi’i gwblhau’n ddiweddar.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr George Hardcastle a Joe Johnson.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y sylwadau yr oedd wedi’u gwneud yn ystod yr eitem yn y Cofnodion, yngl?n â’i gais am archwiliad o’r broses gynllunio. Deallodd fod gwaith yn mynd rhagddo gydag Archwilio Mewnol a dymunodd egluro nad oedd ei sylwadau i fod i gyfleu unrhyw feirniadaeth o berfformiad swyddogion y Gwasanaethau Cynllunio. Ymddiheurodd y Cynghorydd Heesom i’r Cadeirydd am ei ymddygiad yn ystod y cyfarfod ac am fethu â pharchu ei swydd fel Cadeirydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill.