Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )

16/02/2022 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Cyfeiriodd at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 12 Hydref, a dywedodd y byddai yna eitem ychwanegol ar y rhaglen i ystyried Cyllideb 2022/23 - Cam 2.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Joe Johnson am y cynnydd gyda’r llosgyddion ym Mharc Adfer, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod taith rithiol o Barc Adfer wedi ei threfnu ar gyfer y cyfarfod nesaf.  Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau y dylid cysylltu â’r Hwylusydd os oes ganddyn nhw unrhyw awgrymiadau ar gyfer eitemau eraill y dylid eu cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu a gododd o’r cyfarfodydd blaenorol.  Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar y camau gweithredu a gododd o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin.  Esboniodd y byddai meini prawf lleoliad biniau gwastraff yn cael eu rhannu â’r Aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon ynghylch sbwriel yn cael ei daflu ar strydoedd, ffyrdd ac yng nghefn gwlad.  Dywedodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd wrth Aelodau y dylen nhw godi pryderon yn ymwneud ag eiddo penodol gyda’u cydlynydd ardal a fyddai’n dwyn y mater i sylw’r rheolwr busnes priodol.    Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i sicrhau bod busnesau sy’n creu gwastraff pecynnu yn gyfrifol am gael gwared â gwastraff/sbwriel sy’n cael ei daflu ger eu heiddo.  Dywedodd swyddogion y byddai gwybodaeth yn cael ei rhannu ynghylch cynllun Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y byddai ar gael.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran cwblhau’r camau gweithredu sydd heb eu cyflawni.