Mater - penderfyniadau

Community Recovery

29/07/2021 - Community Recovery

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) gyflwyniad am y gwaith sydd wedi’i wneud gan Gr?p Adferiad Cymunedol Sir y Fflint, gan sôn am:

 

·         Adferiad Cymunedol - Sir y Fflint

·         Adferiad Cymunedol – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

·         Amgylchedd Tîm 1

·         Cyfleoedd sydd gennym ni

 

Ar ôl y cyflwyniad, gofynnodd y Cynghorydd David Healey am ragor o wybodaeth am brosiect ucheldiroedd Moel Famau a siaradodd am yr angen i ddarparu cyfleoedd ar gyfer grwpiau cymunedol lleol i gyfarfod.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Marion Bateman, cytunodd y Prif Swyddog i drefnu bod y Strategaeth Coetir yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor.

 

Fe ganmolodd y Cynghorydd Paul Cunningham waith Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol trwy gydol yr argyfwng.

 

Yn dilyn argymhelliad gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai swyddogion arweiniol yn cael gwahoddiad i gyfarfodydd mis Gorffennaf ac Awst er mwyn trafod gwaith grwpiau tactegol ar yr Economi a Thlodi.  Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Aelodau yn nodi’r trefniadau llywodraethu, blaenoriaethau a chynnydd a wnaed hyd yn hyn mewn cysylltiad ag Adferiad Cymunedol; a

 

 (b)      Bod y Rheolwr Mentergarwch ac Adfywio a’r Rheolwr Budd-daliadau yn darparu manylion gwaith ar eu grwpiau tactegol priodol yn y ddau gyfarfod nesaf.