Mater - penderfyniadau
Community Recovery
29/07/2021 - Community Recovery
Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) gyflwyniad am y gwaith sydd wedi’i wneud gan Gr?p Adferiad Cymunedol Sir y Fflint, gan sôn am:
· Adferiad Cymunedol - Sir y Fflint
· Adferiad Cymunedol – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
· Amgylchedd Tîm 1
· Cyfleoedd sydd gennym ni
Ar ôl y cyflwyniad, gofynnodd y Cynghorydd David Healey am ragor o wybodaeth am brosiect ucheldiroedd Moel Famau a siaradodd am yr angen i ddarparu cyfleoedd ar gyfer grwpiau cymunedol lleol i gyfarfod.
Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Marion Bateman, cytunodd y Prif Swyddog i drefnu bod y Strategaeth Coetir yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor.
Fe ganmolodd y Cynghorydd Paul Cunningham waith Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol trwy gydol yr argyfwng.
Yn dilyn argymhelliad gan y Cadeirydd, cytunwyd y byddai swyddogion arweiniol yn cael gwahoddiad i gyfarfodydd mis Gorffennaf ac Awst er mwyn trafod gwaith grwpiau tactegol ar yr Economi a Thlodi. Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Aelodau yn nodi’r trefniadau llywodraethu, blaenoriaethau a chynnydd a wnaed hyd yn hyn mewn cysylltiad ag Adferiad Cymunedol; a
(b) Bod y Rheolwr Mentergarwch ac Adfywio a’r Rheolwr Budd-daliadau yn darparu manylion gwaith ar eu grwpiau tactegol priodol yn y ddau gyfarfod nesaf.