Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
16/01/2023 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, sef Atodiad 2 i’r adroddiad, ac eglurodd fod y ddogfen wedi’i diwygio ers y sesiwn briffio a gynhaliwyd yn y cyfarfod diwethaf. Rhoddwyd disgrifiad byr o’r eitemau ar y rhestr ar gyfer Medi, Hydref, Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023. Cadarnhaodd yr Hwylusydd y cyflawnwyd yr holl gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol fel y nodwyd yn Atodiad 2 i’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.
Holodd y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n ag ansawdd cysylltiadau rhyngrwyd mewn ysgolion a’r prydau ysgol a ddarperid, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eu bod yn ymwybodol o’r anawsterau â’r rhyngrwyd a ddeilliai o Raglen Seilwaith Cenedlaethol Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus. Cadarnhaodd fod adran TG y Cyngor wrthi’n ceisio datrys y problemau ond dywedodd nad Sir y Fflint yn unig oedd yn eu cael. Rhoes y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybodaeth yngl?n â’r newidiadau yn null gweithredu busnes NEWydd ar gyfer prydau bwyd, a’r gegin gynhyrchu ganolog yn Neuadd y Sir. Cytunodd y byddai’n gofyn i Reolwr Gyfarwyddwr NEWydd lunio adroddiad yn sôn am y problemau recriwtio’r oeddent yn eu cael, a’r newidiadau yn narpariaeth y prydau ysgol, gan gynnwys gwybodaeth yngl?n â chyflwyno prydau bwyd am ddim i’r holl blant mewn dosbarthiadau babanod. Gofynnodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a ellid cynnwys yr Adroddiad ar Falansau Ysgolion yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfod mis Medi.
Holodd y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â fêpio mewn ysgolion a soniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am drafodaethau a gafwyd yng nghyfarfodydd diweddar Ffederasiwn y Penaethiaid a’r Pwyllgor Ymgynghori Addysg. Roedd gwaith yn mynd yn ei flaen i ddarparu canllawiau polisi gwerth chweil i gynorthwyo athrawon i reoli’r sefyllfa mewn ysgolion, gan nad oedd dealltwriaeth gyflawn o’r goblygiadau i iechyd plant. Roedd y gwasanaeth Safonau Masnach yn rhan o hynny hefyd gan ei bod yn anghyfreithlon gwerthu nwyddau fêpio i blant dan ddeunaw oed, ac eglurodd y gweithdrefnau a gâi eu sefydlu i’r ysgolion gysylltu â Safonau Masnach i godi pryderon neu rannu gwybodaeth. Roedd hyn yn fater o bwys ac awgrymodd y gellid rhoi sylw iddo yn y gwanwyn fel rhan o’r cynllun Ysgolion Iach. Rhoes sicrwydd i’r Aelodau y cedwid llygad barcud ar hyn.
Holodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a ganiateid fêpio ar dir ysgol, a chadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) na chaniateid hynny. Eid i’r afael â hyn ym mholisïau’r ysgolion ac roedd dan reolaeth ar hyn o bryd, ond mater ydoedd o ddeall y ddeddfwriaeth yngl?n â’r hyn oedd yn dderbyniol ar dir ysgol.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddilyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd heb eu cwblhau.