Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

05/10/2022 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol presennol a ddiwygiwyd i gynnwys ceisiadau’r Aelodau.  Cadarnhaodd y bydd eitem ar ddatblygu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 yn cael ei ystyried ym Medi a byddai sesiwn friffio Aelodau ar adrodd ar berfformiad yn cael ei drefnu.

 

Yn ôl cais y Cadeirydd, byddai eitemau ar y gylchred cynllunio ariannol a busnes a rheoli risg yn cael ei drefnu.  Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’r cynllun darparu sy’n datblygu ar hyn o bryd yn cael ei rannu gydag Aelodau cyn Medi.

 

Hefyd awgrymodd y Cadeirydd eitem i archwilio buddion ariannol o roi contract allanol neu rannu rhai o wasanaethau’r Cyngor, a gofynnodd am ddiweddariad ar y lefel bresennol o ddyled sy’n weddill ar y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd lleol.  Byddai’r ddwy eitem yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a Bill Crease.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.