Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

15/11/2022 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol presennol a rhoddodd wybod bod eitem y Crwner a drefnwyd ar gyfer mis Hydref wedi cael ei symud i fis Rhagfyr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i’r Pwyllgor dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y flaenoriaeth hon a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru cyn diwedd y flwyddyn.   Gan dynnu sylw at yr eitem gyllideb ar y rhaglen, gofynnodd a fyddai modd cynnwys ei awgrym blaenorol i ystyried cynnig contractau allanol neu rannu rhai o wasanaethau’r Cyngor i nodi unrhyw fuddion ariannol yn y rhaglen ar gyfer mis Hydref/Tachwedd.   Cefnogodd ac eiliodd y Cynghorydd Attridge yr eitemau ychwanegol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y dylid cynnwys eitem ar y rhaglen i adolygu polisi’r Cyngor ar Adran 13A (isadran 1c) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn ymwneud â phwerau disgresiwn cynghorau i ostwng neu ddiddymu symiau Treth y Cyngor taladwy ar sail achosion unigol.

 

Cefnogwyd awgrym y Prif Weithredwr bod y Pwyllgor yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig ym mis Hydref.

 

Gan gynnwys yr eitemau ychwanegol hyn, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Richard Jones a Bernie Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.