Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
22/12/2021 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Wrth gyflwyno’r rhaglen gwaith i’r dyfodol wedi’i diweddaru er ystyriaeth, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai adroddiad ar y Strategaeth Pobl a'r Protocol Dychwelyd i'r Gwaith yn cael eu hychwanegu ar raglen cyfarfod mis Rhagfyr.
Yn seiliedig ar hyn, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Mared Eastwood.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod; a
(b) Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.