Mater - penderfyniadau

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

23/11/2021 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddiweddaraf i’w hystyried.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at becynnau gofal ar y cyd a drafodwyd yng nghyfarfod mis Gorffennaf a dywedodd nad oedd y cais am fanylion y swm a gollwyd i’r Cyngor dros gyfnod rhesymol o amser wedi cael ei weithredu eto. Gofynnodd am gadarnhad hefyd ynghylch a oedd llythyr wedi cael ei anfon at y Bwrdd Iechyd yn ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn y broses apelio am benderfyniadau ar becynnau gofal oedd wedi’u hariannu ar y cyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod penderfynu ar becynnau gofal o’r fath yn bwnc cymhleth ers tro gyda goblygiadau cost sylweddol ac roedd y Cyngor wedi ymgysylltu’n helaeth gyda’r Bwrdd Iechyd.  Dywedodd bod ymrwymiad wedi’i roi yn y gorffennol gan y Bwrdd Iechyd i adolygu’r system a bod angen ei adolygu eto. Fe awgrymodd efallai yr hoffai’r Pwyllgor wneud cais am gyfarfod preifat ar frys rhwng swyddogion a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd er mwyn adolygu proses a chanlyniadau, gydag adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Jones am oblygiadau ariannol i’r Cyngor a dywedodd na ddylai cyfraniadau amcanol gan y Bwrdd Iechyd gael eu cynnwys yn y gyllideb nes bod y broses apeliadau wedi dod i ben.  Cynigiodd yr awgrym a wnaed gan y Prif Weithredwr a gofynnodd bod yr adroddiad, yn cynnwys gwybodaeth a ofynnwyd amdani ym mis Gorffennaf, yn dod yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd/Rhagfyr.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; fel y’i diwygiwyd yn y cyfarfod;

 

 (b)      Bod y Prif Weithredwr yn cysylltu â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ceisio cyfarfod adolygu brys i’r diffyg mewn pecynnau ariannu ar y cyd, sydd wedi’u achosi gan benderfyniadau’r Bwrdd Iechyd ar gyllid.  Bod adroddiad am hyn, yn cynnwys datrysiad 16(c) o’r cyfarfod ar 8 Gorffennaf 2021, yn dod yn ôl i’r Pwyllgor yma a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2021; a

 

 (b)      Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.