Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking
20/12/2021 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Ar yr adroddiad olrhain camau gweithredu, byddai’r cyflwyniad a rennir yn y cyfarfod mis Hydref yn cael ei ail-gylchredeg i’r Aelodau.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd David Wisinger.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.