Mater - penderfyniadau

A Plan for Shotton

13/01/2022 - A Plan for Shotton

Cyflwynodd yr Uwch-Swyddog Gweithredol yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet, ym mis Chwefror 2021, wedi cefnogi datblygiad ‘Cynllun ar gyfer Shotton’ - gyda Gr?p Llywio amlasiantaeth yn goruchwylio’r gwaith cynhyrchu a darparu.

 

            Mae’r rhaglen weithgareddau yn Shotton eisoes wedi gweld llwyddiannau, a amlinellir yn yr adroddiad, ynghyd â chynigion ar gyfer y camau nesaf a fyddai’n arwain at ymgysylltu'n ehangach gyda sefydliadau partner a’r gymuned i ddatblygu cynlluniau cyflenwi manylach. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r risgiau i’w hystyried a’r camau lliniaru i’w cytuno arnynt. Mae’r risgiau yn bennaf yn ymwneud ag adnoddau a gallu; rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid hyd yma; a datblygu cynllun realistig a rheoli disgwyliadau.

 

            Byddai ymgysylltu â mwy o sefydliadau partner a budd-ddeiliaid, gan gynnwys cynrychiolaeth ehangach ar y Gr?p Llywio, yn gwella’r cyfle dan y cynllun i drefnu perthnasau partneriaeth i gydweithio i gyrraedd nodau a rennir ac i gyfuno adnoddau i fanteisio i’r eithaf ar y gallu i ddarparu canlyniadau blaenoriaeth lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo cynllun strategol lefel uchel, ‘Cynllun ar gyfer Shotton’, i bennu cyfeiriad strategol ar gyfer gwaith yn Shotton o r?an tan 2030;

 

(b)       Cefnogi gwaith pellach i ymgysylltu gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid ehangach i ddatblygu cynlluniau cyflawni manylach a chraidd sy’n canolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n cyd-fynd â’r pedwar amcan strategol, fel y nodir yn y Cynllun ar gyfer Shotton;

 

(c)        Nodi’r risgiau a’r camau lliniaru;

 

(d)       Cefnogi’r ddogfen gyfathrebu/cyhoeddusrwydd ragweithiol sy’n cyd-fynd â’r adroddiad a’r cynlluniau cysylltiedig.