Mater - penderfyniadau
Employment and Workforce End of Year Update
08/10/2021 - Employment and Workforce End of Year Update
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad ar y sefyllfa ar ddiwedd blwyddyn 2020/21 o ran ystadegau gweithlu a’u dadansoddiad.Nid oedd y ffigyrau ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu wedi eu cynnwys gan mai gwasanaeth rhanbarthol oedd hwn.
Wrth grynhoi’r prif feysydd, siaradodd yr Uwch Reolwr am effaith y sefyllfa argyfyngus ar ffigyrau presenoldeb a’r gwariant ar weithwyr asiantaeth.
Canmolodd y Cynghorydd Richard Jones y canfyddiadau yng ngoleuni effaith yr argyfwng.Wrth ymateb i gwestiynau siaradodd yr Uwch Reolwr am newidiadau i’r broses arfarnu i addasu i’r sefyllfa ac adborth cadarnhaol ar y defnydd o dechnoleg i gynnal cyfathrebu o fewn timau.
Holodd y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â gweithio o bell yn y dyfodol a rhoddwyd gwybod iddo fod gwaith yn digwydd i sefydlu egwyddorion hirdymor ar gyfer pob tîm i ddiwallu anghenion gweithwyr a’u gwasanaethau.
Wrth ganmol yr adroddiad, amlygodd y Cynghorydd Patrick Heesom yr heriau ar gyfer aelodau etholedig o ran gweithio’n wahanol yn ystod yr argyfwng.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Patrick Heesom.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu ar Ddiwedd Blwyddyn 2020/21 (Hydref 2020 – Mawrth 2021); a
(b) Bod y Pwyllgor yn mynegi ei werthfawrogiad o weithlu’r Cyngor o ran cynnal darpariaeth gwasanaeth yn ystod pandemig Covid-19.