Mater - penderfyniadau

End of Year Performance Monitoring

21/12/2021 - End of Year Performance Monitoring

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y wybodaeth yn cyflwyno adolygiad blynyddol o berfformiad yn erbyn y mesurau a nodwyd ar gyfer 2020/21.

 

Roedd yr adroddiad ar gyfer Mesurau Adrodd 2020/21 yn dangos bod 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Yn y meysydd lle gellid mesur perfformiad yn erbyn y llynedd, roedd dirywiad o 52% yn y duedd, gyda 43% o fesurau’n gwella ar berfformiad y llynedd a 5% yn parhau i berfformio’n sefydlog.  Roedd yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.

 

Fe eglurodd y Prif Weithredwr bod y Mesurau Adrodd yn cael eu monitro gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol yn ôl y maes blaenoriaeth o ddiddordeb, a chafodd yr adroddiad llawn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol. Roedd pob Pwyllgor yn fodlon gyda’r perfformiad, gan nodi bod modd egluro unrhyw feysydd o danberfformiad gan yr amhariad a achoswyd gan bandemig Covid-19.  Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Gorffennaf gan fod angen ei fabwysiadu’n ffurfiol erbyn diwedd mis Hydref.  

 

Canmolodd yr Aelodau berfformiad y gweithwyr yn ystod cyfnod sydd wedi bod, ac sy’n parhau i fod yn gyfnod anodd iawn. Roedd yn dangos gallu’r sefydliad a’i weithwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi ac adolygu perfformiad cyffredinol y dangosyddion o safbwynt y Mesurau Adrodd ar ddiwedd y flwyddyn; a

 

(b)       Bod Aelodau wedi’i sicrhau gan yr eglurhad am yr achosion o danberfformio, a oedd yn bennaf o ganlyniad i amhariad pandemig Covid-19.