Mater - penderfyniadau

Planning the Agenda for the Liaison on Ethical Issues Meeting

20/09/2021 - Planning the Agenda for the Liaison on Ethical Issues Meeting

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad ar gyfer cynllunio rhaglen y cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor Sir ac Arweinwyr y Grwpiau.  Cyflwynwyd yr awgrymiadau canlynol i’w hystyried:

 

·         Canlyniad ymweliadau Aelodau Annibynnol â chyfarfodydd y Cyngor.

·         Rhoi dyletswyddau deddfwriaethol newydd ar waith yn 2022. Rhannwyd yn breifat y canllawiau drafft gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yngl?n â’r dyletswyddau hyn (paragraff 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd)).

·         Cefnogi’r dyletswyddau newydd, yr awgrym y dylai aelodau etholedig sy’n dychwelyd fod yn rhan o’r broses gyflwyno ar gyfer Aelodau newydd, ac y dylid cynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer pob gr?p gwleidyddol, gyda chefnogaeth Arweinwyr y Grwpiau.

 

Er nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn adroddiad yngl?n â chanlyniad yr holl ymweliadau â chyfarfodydd y Cyngor, roedd crynodeb o’r pwyntiau a godwyd wedi eu cynnwys yng nghofnodion cyfarfodydd blaenorol. Nododd y Cadeirydd fod cynnwys nodyn gweithredu ar bob rhaglen ffurfiol yn un o argymhellion yr adborth, ac fod hyn eisoes yn ei le.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan Gill Murgatroyd, cafwyd eglurhad gan y Swyddog Monitro ar oblygiadau o ran adnoddau'r hyfforddiant a awgrymir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid derbyn yr argymhellion a gyflwynodd y Swyddog Monitro.  Wrth eilio’r cynnig, diolchodd Phillipa Earlam i’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddog Monitro am eu gwaith ar y mater hwn ac am fynychu Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r rhaglen drafft ar gyfer y Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf; ac

 

 (b)      Y dylid cael cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen derfynol gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) mewn ymgynghoriad ag aelodau’r cyfarfod.