Mater - penderfyniadau

Public Interest report issued under s.16 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005

25/03/2022 - Public Interest report issued under s.16 of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005

Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Monitro, cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr eitem a’r cefndir i Adroddiad Budd y Cyhoedd a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd wedi cynnal cwyn gan gymydog eiddo a oedd wedi cael caniatâd cynllunio i’w anecs gan y Cyngor.  Roedd canfyddiadau’r Adroddiad Budd y Cyhoedd yn nodi bod y ffordd yr oedd y ceisiadau wedi’u trin gyfystyr â chamweinyddu, gan arwain at anghyfiawnder i’r achwynydd hwnnw, ac roedd yn gwneud argymhellion ar gyfer unioni’r camweinyddu.  Dywedodd y Prif Swyddog fod adroddiadau o’r fath yn bethau prin i’r Cyngor ac mai cyfrifoldeb y Cyngor oedd penderfynu a ddylid derbyn neu herio canfyddiadau ac argymhellion gan yr Ombwdsmon.

 

Er bod swyddogion yn parchu barn yr Ombwdsmon, roeddent wedi rhoi ystyriaeth ofalus a gwrthrychol i’r mater ac roeddent yn anghytuno â rhai o’r canfyddiadau hynny.  Roeddent o’r farn bod yr anecs yn sylweddol yn unol â’r polisi, ac er bod mân wyro o’r polisi, nid oedd yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio.  Felly, roeddent o’r farn y byddai’n debygol iawn y byddai’r ymgeisydd wedi bod yn llwyddiannus â’i apêl, pe bai’r Cyngor wedi gwrthod caniatâd.  Ymhellach, roedd hawliau datblygu a ganiateir yn caniatáu ar gyfer adeiladu adeilad tebyg o ran golwg, a mwy, beth bynnag.  Ar ôl cael cyngor cyfreithiol annibynnol, roedd swyddogion o’r farn, er byddai gan y Cyngor ragolygon rhesymol o lwyddo pe bai’n cyflwyno her gyfreithiol i’r canfyddiadau, byddai proses o’r fath yn arwain at gostau ac adnoddau sylweddol i’r Cyngor a’r Ombwdsmon, gan achosi difrod i’r berthynas weithio honno o bosibl a rhagor o oedi o ran dod i benderfyniad i’r achwynydd.  Ar y sail honno, argymhellwyd bod y Cyngor yn derbyn canfyddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Mewn cyferbyniad, roedd gan y Cyngor ddisgresiwn o ran p’un a fyddai’n derbyn argymhellion yr Ombwdsmon o ran unioni, a byddai angen sail dda i wyro o’r argymhellion hynny.  Fodd bynnag, o ystyried cred y swyddogion o ran polisi a hawliau datblygu a ganiateir, roeddent yn teimlo’n gryf bod sail dda dros argymell camau unioni gwahanol i’r rhai a gyflwynwyd gan yr Ombwdsmon.  Pe bai’r canfyddiadau’n cael eu derbyn, byddai’n rhesymol gweithredu’r ddau argymhelliad cyntaf i ymddiheuro i’r achwynydd am faint o amser a gymerwyd i’w ddatrys - roedd y Cyngor ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am hyn - ac adolygu a gydymffurfiwyd â’r amodau oedd ynghlwm wrth y caniatâd ôl-weithredol.  Argymhellodd Swyddogion fod trydydd argymhelliad yr Ombwdsmon (bod swm yn cael ei dalu i’r achwynydd sydd gyfwerth â’r gwahaniaeth yng ngwerth ei heiddo cyn ac ar ôl y datblygiad, a fyddai’n dod i £20,000) yn cael ei wrthod, ar y sail a nodir yn 3.10 yr adroddiad.  Argymhellodd Swyddogion fod y Cyngor yn talu swm o £5,000 i adlewyrchu’r amser, y drafferth a’r gofid a achoswyd i’r achwynydd.

 

Wrth gynnig cymeradwyo argymhellion y swyddog, cytunodd y Cynghorydd Chris Bithell mai hwn oedd y dull cywir, yn seiliedig ar y rhesymau a nodwyd.  Roedd y Cynghorydd David Wisinger yn siarad o blaid hefyd, ac eiliodd y cynnig.

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i swyddogion am yr adroddiad a dywedodd fod argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn briodol a dylid eu cydnabod.  Oherwydd mai hwn oedd yr ail Adroddiad Budd y Cyhoedd a gyhoeddwyd i’r Cyngor gan yr Ombwdsmon, awgrymodd fod y Gr?p Strategaeth Gynllunio yn archwilio hyn ymhellach.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod ymgynghori wedi bod gyda’r Gr?p Strategaeth Gynllunio ac Arweinwyr Grwpiau o ran yr adroddiad a byddai unrhyw wersi a ddysgwyd o’r mater yn cael eu dilyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at eiriad ym mharagraff 3.08 yr adroddiad a dywedodd os oedd y Cyngor yn derbyn bod camweinyddu wedi digwydd, dylai dalu £20,000 i’r achwynydd (sef y swm yr oedd y Prisiwr Dosbarth yn credu oedd y gwahaniaeth o ran gwerth ei heiddo), yn unol ag argymhelliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Clive Carver am bwysigrwydd gwrando ar argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chyfeiriodd at adroddiad tebyg a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon yn 2019.  Oherwydd nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ac felly nad oedd wedi cael yr hyfforddiant perthnasol, cododd y Cynghorydd Carver bryderon nad oedd ganddo wybodaeth ddigonol i gwestiynu cyngor swyddogion am geisiadau cynllunio yn ei ward.  Dywedodd y Cynghorydd Carver y byddai’n pleidleisio yn erbyn argymhellion swyddogion a gofynnodd fod hyn yn cael ei gofnodi.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Mike Peers y cynnig a awgrymwyd, sef £5,000 os oedd y Cyngor yn derbyn rhywfaint o atebolrwydd, a gofynnodd sut oedd y ffigur hwn wedi codi.  Cododd gwestiynau o ran cydymffurfio ag amodau cynllunio, rhannu cyngor cyfreithiol a gofnodwyd a gofynnodd a oedd y sail ar gyfer gwahanol gamau unioni wedi’i godi gyda’r Ombwdsmon cyn yr adroddiad i’r Cyngor.

 

Gan ymateb i’r pwyntiau a godwyd, eglurodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog nad oedd achos blaenorol y soniwyd amdano wedi gosod cynsail oherwydd bod y rhesymau dros herio yn wahanol.  Yn yr achos hwn, y prif resymau dros beidio â herio’r canfyddiadau trwy Adolygiad Barnwrol oedd osgoi difrod i enw da’r Cyngor a’i berthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ynghyd â’r costau oedd ynghlwm â gwneud hynny.  Roedd Swyddogion wedi egluro’r sail dros wyro o argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru cyn i’r Adroddiad Budd y Cyhoedd gael ei gyhoeddi, ac roedd y taliad a awgrymwyd i’r achwynydd i adlewyrchu gofid ac oedi gyda’r achos - roedd hyn yn gyfrifoldeb i’r Ombwdsmon hefyd - yn berthynol i daliadau iawndal eraill oedd wedi'u cofnodi am resymau tebyg.  Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Cyngor wedi cysylltu’n llawn ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru trwy gydol y broses.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Aaron Shotton am y camau nesaf, nododd y Prif Swyddog y dewisiadau a oedd ar gael i’r Ombwdsmon wrth roi ystyriaeth i benderfyniad y Cyngor, lle na fyddai unrhyw atebolrwydd ar Aelodau’r Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones ddiwygiad, sef bod y Cyngor yn derbyn y canfyddiadau a phob argymhelliad a wnaed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn llawn (paragraffau 50-53 adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru).  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom.

 

Ar gyngor y Prif Swyddog, cafwyd pleidlais i egluro a oedd Aelodau’n cefnogi argymhellion swyddogion neu argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn llawn (diwygiad gan y Cynghorydd Jones).  O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd y diwygiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod canfyddiadau a nodir yn yr Adroddiad Budd y Cyhoedd yn cael eu derbyn am resymau a nodir ym mharagraff 3.03 i 3.06 yr adroddiad; a

 

(b)       Bod argymhellion a nodir ym mharagraff 50, 51, 52 a 53 yr Adroddiad Budd y Cyhoedd yn cael eu derbyn, sef bod y Cyngor yn:

 

                      I.        Cyhoeddi ymddiheuriad i’r achwynydd;

                    II.        Adolygu a gydymffurfiwyd â’r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd ôl-weithredol.  Os doir i’r casgliad na chydymffurfiwyd â nhw, dylai’r Cyngor ystyried pa gamau gweithredu allai fod yn fanteisiol i sicrhau cydymffurfiaeth o’r fath;

                   III.        Cyfarwyddo’r Prisiwr Dosbarth i asesu effaith y datblygiad ar eiddo Ms N o fewn 3 mis ac o fewn mis o gael adroddiad y Prisiwr Dosbarth, talu swm iddi sydd gyfwerth â gwahaniaeth gwerth ei heiddo cyn ac ar ôl y datblygiad; a

                  IV.        Chadarnhau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pa gamau mae wedi’u cymryd i ymateb i’r Adroddiad Budd y Cyhoedd.