Mater - penderfyniadau

Car Parking Charges

21/12/2021 - Car Parking Charges

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod yr atal dros dro cyfredol o ffioedd maes parcio yng nghanol y dref wedi ei weithredu gyda’r bwriad o helpu busnesau canol tref ffynnu ar ôl pandemig Covid-19.

 

            Mae’r maes parcio yn Nhalacre yn cael ei ystyried fel maes parcio ‘cyrchfan terfyn’ a roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i adfer y ffioedd yn y maes parcio hwn.

 

            Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno trefn codi tâl yn y maes parcio a theithio newydd sydd wedi’i adeiladu ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

            Roedd y Cynghorydd Banks yn cefnogi’r adroddiad, yn ogystal â’r Cynghorydd Jones a ddywedodd y bydd hyn yn helpu â phroblemau traffig ym Mharthau 1, 2 a 3 ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      I gymeradwyo ailgyflwyno ffioedd maes parcio ym maes parcio Talacre: a

 

 (b)      Cymeradwyo cyflwyno’r trefn codi tal maes parcio a theithio ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.