Mater - penderfyniadau
Forthcoming Active Travel Consultation Process
16/02/2022 - Forthcoming Active Travel Consultation Process
Cyflwynodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd yr adroddiad i roi gwybod i’r Pwyllgor am yr ymgynghoriad strategol 12 wythnos sydd i ddod ar Fap Llwybrau Presennol Teithio Llesol a Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor, sydd i fod i ddechrau ym mis Awst 2021. Gofynnwyd i Aelodau roi sylwadau neu awgrymiadau ar y broses ymgynghori arfaethedig. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Pwysleisiodd y Prif Swyddog bwysigrwydd cynlluniau oedd yn cael eu cynnwys ar y Map Rhwydwaith Integredig i ffurfio sail ceisiadau grant y Cyngor i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Anogodd yr Aelodau i ychwanegu eu hawgrymiadau ar gyfer cynlluniau lleol ar y Map Rhwydwaith Integredig i gefnogi ceisiadau yn y dyfodol.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r amserlenni’n gysylltiedig â’r ymgynghoriad sydd i ddod ar gyfer Map Llwybrau Presennol Teithio Llesol a Map Rhwydwaith Integredig y Cyngor; a
(b) Bod y Pwyllgor yn gofyn am adroddiad pellach yn manylu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ffurfiol ar Fap Rhwydwaith Integredig y Cyngor cyn iddo gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2021.