Mater - penderfyniadau

Safeguarding in Education

28/10/2021 - Safeguarding in Education

            Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) a rhoddodd ddiweddariad am gyflawni dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio Addysg gyda’r fformat yn wahanol eleni oherwydd y pandemig.

 

            Rhoddwyd gwybodaeth yngl?n â sut mae ysgolion yn edrych ar ddiogelu a’r newidiadau yn lle Gweithdrefnau Diogelu Cymru, Canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel a gofynion Estyn.Canmolodd y modd y mae disgyblion a staff addysgu wedi addasu i’r ffyrdd gwahanol o ddysgu, boed yn yr ystafell ddosbarth neu ar y we, gydag athrawon yn cadw cysylltiad gyda phlant a rhieni ac roedd hyn yn fater o bryder a chyfrifoldeb i ysgolion.  Fe soniodd am y berthynas weithio agos gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant a’r Gr?p Tactegol Arian a dywedodd bod gan ysgolion heriau gwahanol bob blwyddyn gyda diogelu yn y rheng flaen.   

 

            Roedd yr ymateb i Covid 19 a Deddf ADY wedi arwain at weithdrefnau newydd ar gyfer diogelu a darparwyd hyfforddiant priodol i gefnogi hyn. Fe gyfeiriodd at yr heriau gyda dysgu o bell a dysgu cyfunol gyda phlant yn gorfod cael mynediad i’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol a chadarnhaodd y byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

Yna rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth fanwl am Weithdrefnau Cymru oedd wedi’u diweddaru, Diweddariad am Ganllawiau i Ysgolion, hyfforddiant dros y we a chefnogaeth broffesiynol i Benaethiaid, Llywodraethwyr ac ysgolion.  Fe gadarnhaodd bod Claire Sinnott wedi cydlynu hyn ac wedi darparu trosolwg o Ddiogelu yn y Panel Addysg a’i fod yn gysylltiedig gyda’r Panel Diogelu Corfforaethol. Bu’r panel yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod prosesau ar waith yn yr ysgolion, yn cael eu cefnogi, eu monitro a’u dwyn i gyfrif o ran diogelu. Nid yw hyn yn rhywbeth sefydlog ac mae’n newid yn gyson.  Rhoddodd sicrwydd i Aelodau bod hyn yn cael ei herio’n gyson ac yn symud ymlaen. Canmolodd yr Uwch Reolwr (Plant a Gweithlu) y gwaith cadarnhaol rhwng ysgolion, addysg a gwasanaethau cymdeithasol gyda phlant yn y rheng flaen a chafodd hyn ei atgyfnerthu gan waith y Gr?p Tactegol Arian. Roedd yn teimlo anrhydedd i fod yn rhan ohono.  Roedd y Prif Swyddog yn gwerthfawrogi cyfraniad yr Uwch Reolwr (Plant a Gweithlu) a alluogodd ymatebion cadarn i gefnogi plant a phobl ifanc diamddiffyn trwy gydol y pandemig.

 

            Cyfeiriodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol at y gwaith a wnaed gyda’r Panel Diogelu Corfforaethol sydd yn sicrhau bod pob plentyn cael ei gefnogi ac yn derbyn y gofal gorau ond roedd hyn wedi cael ei wneud yn wahanol. Yn ystod y pandemig, roedd adran Addysg a Gofal Cymdeithasol wedi sicrhau bod pob teulu’n cael ei fonitro dros y we ac yn bersonol er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth oedd ei angen arnynt. Roedd hi’n arbennig o falch o’r modd roedd Sir y Fflint wedi ymateb i ddiogelu a bob amser yn rhagweithiol wrth ddatblygu gweithdrefnau newydd, hyfforddiant a gwaith partneriaeth gwych ar gyfer plant ac oedolion.   Fe ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod wedi cyd-gadeirio’r Panel Diogelu gyda Phrif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a chyda cefnogaeth Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, roedd hyn wedi atgyfnerthu’r dull diogelu corfforaethol dros y blynyddoedd diweddar. Roedd diogelu bob amser yn newid ac roedd angen ei herio’n gyson, roedd dysgu a datblygu a’r gweithdrefnau newydd yn gam sylweddol yng Nghymru ac mae cydweithwyr ar draws y Cyngor wedi rheoli hyn yn dda er mwyn sicrhau ei fod yn symud ymlaen.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at y plant oedd yn cael eu haddysgu gartref a gofynnodd pwy oedd yn monitro’r plant yma er mwyn sicrhau eu bod yn cael gofal. Gofynnodd hefyd pwy oedd yn talu am blant oedd yn cael eu haddysgu gartref. Roedd gan Sir y Fflint ddyletswydd gofal am y plant yma, ac roedd ganddi bryderon oni bai bod rhiant yn athro neu’n athrawes, sut allen nhw ddilyn ac addysgu’r cwricwlwm.  Atebodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) gan ddweud bod y mater o addysgu gartref yn rhywbeth sydd angen ei drafod ar ei ben ei hun ac awgrymodd y gellir cynnwys y mater yma ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar gyfer y gylchred yma.Byddai’r adroddiad yn cynnwys y prosesau roedd yr awdurdod lleol yn ymgymryd â nhw, ei gyfrifoldebau statudol a monitro ansawdd yr addysg sy’n cael ei ddarparu.Dywedodd y Prif Swyddog bod y plant yma y tu allan i systemau’r awdurdod gan bod y rhieni wedi dewis eu cymryd allan o’r ysgol a’u cyfrifoldeb nhw oedden nhw. Nid oedd yr awdurdod yn derbyn cyllid ar gyfer y plant yma, ond roeddynt yn monitro ansawdd y cwricwlwm oedd yn cael ei ddarparu. Fe ychwanegodd mai’r her oedd y lefel o bwerau ymyrraeth oedd gan yr awdurdod ac y byddai hyn yn cael ei amlinellu yn yr adroddiad. Aeth ymlaen i ddweud os nad oedd y plentyn yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd rhesymau penodol yna byddai’r Gwasanaeth Cynhwysiant a Dilyniant yn gallu trefnu darpariaeth addas. Mewn achosion pan oedd dewis ysgol cyntaf y rhieni’n llawn fe gadarnhaodd y byddai rhieni’n cael cynnig llefydd eraill mewn ysgolion ond eu dewis nhw fyddai derbyn lle arall neu benderfynu addysgu eu plentyn gartref.  Fe awgrymodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad yn cael ei ddosbarthu i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fel y cytunwyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Tudor Jones ei fod yn adroddiad ardderchog oedd wedi cyflawni cymaint cyn effaith y pandemig.  Gofynnodd y cwestiynau canlynol:-

 

  • Yn yr adroddiad o dan ymgynghoriad mae’n dweud “ddim ei angen”, o ystyried yr hyn sydd wedi bod yn digwydd dros y misoedd diwethaf, gofynnodd a ddylid ystyried ymgynghoriad. 

 

  •  Ym mhwynt 1.06 yn yr adroddiad mae’n dweud mai dogfen wedi’i diweddaru o fis Hydref 2020 oedd hi, ond ers hynny mae yna lawer o wybodaeth am ddefnyddio e-gyfathrebu yn amhriodol ymysg plant ac erbyn hyn mae bwlio a secstio wedi symud ar-lein gyda phlant yn tynnu sylw at oblygiadau’r hyn sydd wedi digwydd iddynt. Gofynnodd ai’r ddogfen hon oedd y lle i fynd i’r afael â hynny.

 

  • Ym mhwynt 1.04 cyfeiriodd at y pwyntiau bwled a gofynnodd ai yma roeddem ni’n ymateb yn gyflym i’r hyn roedd plant wedi’i ddatgelu yn y misoedd diwethaf fel bwlio dialgar a niweidiol. Ai dyma’r lle i fynd i’r afael â’r materion yma ac ychwanegu at y ddogfen allai gryfhau ein gweithredoedd yngl?n â sut ydym ni’n cadw’r plant yma oedd yn ddioddefwyr yn ddiogel? Roedd yn gofidio ar ôl darllen bod ysgol wedi awgrymu y dylai merched wisgo siorts o dan eu sgertiau er mwyn atal rhywun rhag tynnu llun gyda ffonau symudol i fyny eu sgertiau, ac roedd yn teimlo bod hyn yn gwneud y dioddefwyr yn gyfrifol am yr hyn oedd yn digwydd iddynt, ac y dylai’r awdurdod fod yn ymyrryd gyda phwy bynnag oedd yn cyflawni’r troseddau yma.

 

            Wrth ymateb rhannodd yr Uwch Reolwr bryderon y Cynghorydd Jones yn yr adroddiadau gan bobl ifanc, ac roedd hi’n croesawu ymateb LlC a’r Gweinidog i ofyn i Estyn ymchwilio i hyn ac edrych ar y diwylliant roedd rhai o’n pobl ifanc gorfod ei wynebu.  Rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau y byddai’r awdurdod yn gweithio gydag Estyn ac ni ddylai ysgolion fod yn hunanfodlon. Fe gyfeiriodd yr aelodau at adran Cadw Dygwyr yn Ddiogel ar Hwb, sef platfform gan LlC sydd ag adnoddau a darpariaeth i ysgolion, ac mae hefyd yn darparu dogfennau ategol i’r ysgolion ac ymarferwyr ar gyfer y problemau hynny.   Mae’r tîm yn LlC wedi bod yn cydlynu ystod o adnoddau a dogfennau ynghyd â chanllawiau i ysgolion i gadw dysgwyr yn ddiogel, caiff y canllawiau eu diweddaru’n rheolaidd a chafodd hyn ei hyrwyddo i ysgolion. Fe gadarnhaodd bod cyngor penodol wedi cael ei ddarparu i ysgolion yngl?n â lluniau amhriodol sy’n cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Rhoddodd wybodaeth am Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd a gwaith y Gweithgor Addysg, ond yr heriau oedd bod y byd digidol yn symud mor gyflym a bod hyn angen bod yn ymatebol i’r angen.  Mae hyn yn broblem gymdeithasol yn ogystal â phroblem yn yr ysgolion a dylai cyrff llywodraethu gymryd rhan a gofyn cwestiynau. Roedd hyn ar yr rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf.  Aeth ymlaen i roi gwybodaeth am y gefnogaeth a’r cyngor sy’n cael ei roi i ysgolion drwy hyfforddiant, cysylltiadau gyda Gwasanaethau Plant a gwella’r gefnogaeth i staff dynodedig yn yr ysgolion a’r cynllun i symud ymlaen.

 

            Cyfeiriodd Mr Hytch at adroddiad Swyddfa Safonau ac Addysg a’r wefan everyonesinvited.com. Mae’r wefan hon yn galluogi pobl i adrodd digwyddiadau a dywedodd bod hanner ysgolion uwchradd Sir y Fflint wedi adrodd digwyddiadau yno, ac ychydig o ysgolion cynradd yn anffodus.  Roedd y Comisiynydd Plant yn teimlo bod y broblem yn dipyn mwy na hyn, ac mae wedi gofyn am Adolygiad Estyn. Gofynnodd y cwestiynau canlynol:-

 

            Yn gyntaf, o ran ymholiadau amhriodol gan y cyfryngau lleol, gofynnodd a oedd yna strategaethau ar waith i ateb y rhain heb ddatgelu’r unigolion ac ysgolion.

 

            Yn ail, allai golwg fwy trylwyr yngl?n â sut i fynd i’r afael â’r materion yma oedd yn broblem ehangach nag ysgolion, yr awdurdod a’r cyrff llywodraethu gael eu hystyried.   Roedd y diwylliant yma’n fwy eang na’r oes cyn y byd digidol ac roedd yn gobeithio y bydd y Pwyllgor Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn gallu edrych ar hyn yn fanwl.

 

      Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr ohebiaeth e-bost rhyngddi hi a Mr Hytch a rhoddodd sicrwydd iddo os oedd ysgol yn derbyn ymholiad gan y wasg roeddynt yn cael eu cyfeirio i swyddfa’r wasg yn y Cyngor a fydd yn gweithio gyda’r ysgol i wneud datganiad priodol.  Cyfeiriodd at y wefan a’r ysgolion sydd wedi’u henwi a dywedodd bod swyddogion yn gweithio gyda’r ysgolion hynny. Roedd hyn ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfodydd portffolio a diogelu corfforaethol a fyddai’n cael eu cynnal yn fuan. Fe soniodd hefyd am ymgysylltu gyda ysgolion a chyfarfod Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Marion Bateman i’r Swyddogion am eu hymroddiad a gwaith caled. Cyfeiriodd at ddigwyddiad a ddaeth i’w sylw (ddim yn Sir y Fflint) am blentyn 6 oed oedd yn cymryd rhan mewn gwers o bell yn ystod y cyfnod clo pan oedd yr athro adref. Cafodd y plentyn 6 oed ei gadael yng ngofal nai h?n, ac ar ôl mewngofnodi i’r wers, gadawodd y nai y plentyn ar ei ben/phen ei hun yn y t?. Daeth hyn yn amlwg i’r athro yn ystod y wers. Gofynnodd Cynghorydd Bateman petai hynny’n digwydd yn Sir y Fflint, pa gamau fyddai’r athro yn eu cymryd a beth fyddai’n digwydd yn syth.

           

            Wrth ymateb i’r Prif Swyddog cadarnhaodd y byddai’r athro yn dilyn gweithdrefnau diogelu plant yr ysgol ac yn trafod y mater gyda’r Swyddog Arweiniol Diogelu Dynodedig a fyddai’n cymryd y weithred briodol i siarad gyda’r Gwasanaethau Plant er mwyn ymchwilio i’r mater.  Roedd hi’n teimlo’n hyderus na fyddai unrhyw aelod o staff yn teimlo’n gyndyn o wneud hyn oherwydd y lefel o hyfforddiant roeddynt wedi’i gael.Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr bod ysgolion wedi derbyn canllawiau clir ar ddechrau’r pandemig yn ogystal â chanllawiau cenedlaethol gan LlC. Dylai dau aelod staff fod ar y sgrin bob amser er mwyn gallu cysylltu â’r Swyddog Diogelu Dynodedig ac mae yna bob amser rhywun yn yr ysgol allai weithredu hyn ar unwaith.

 

            Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol at bwynt y Cynghorydd Healey am blant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref gan ddweud ei bod wedi bod yn rhoi pwysau ar LlC ers nifer o flynyddoedd i gael cofrestr ar gyfer plant sydd yn cael eu haddysgu gartref.  Roedd yr Aelod Cabinet a Phrif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wedi cyfarfod â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd. Roedd o wedi cytuno i ychwanegu ei gefnogaeth o, a gobeithio y byddai hyn yn symud y mater yn ei flaen ymhellach.

 

            Roedd Mr Hytch yn cefnogi sylwadau’r Cynghorydd Jones yngl?n â bwlio ar-lein, gyda thystiolaeth yn dangos cynnydd yn ystod y pandemig. Fe gyfeiriodd at agwedd y Pwyllgor Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i beidio â gwneud sylwadau cas ar-lein, cafodd hyn ei gefnogi gan y Cyngor Llawn a’r gobaith yw y bydd hyn cael ei gario drwodd i ysgolion a gwasanaethau er mwyn newid y diwylliant.   Yn anffodus nid cyfrifoldeb yr ysgolion oedd hyn gan ei fod yn digwydd gartref yn ystafelloedd gwely’r plant, ond ysgolion oedd yn cael y bai, ond fe allent newid yr ymddygiad.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Janet Axworthy ac Ian Smith.

 

PENDERFYNWYD:

 (a)    Bod cynnwys adroddiad diogelu mewn addysg yn cael ei nodi.

 (b)   Bod gwaith cadarnhaol ysgolion Sir y Fflint i ddiogelu plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig yn cael ei nodi.