Mater - penderfyniadau

Commencement of the Socioeconomic Duty

04/05/2022 - Commencement of the Socioeconomic Duty

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategola’r Rheolwr Budd-Daliadau gyflwyniad ar y cyd ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.  Roedd hyn yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau yn sgil anfantais economaidd-gymdeithasol.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

·         Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?

·         Telerau allweddol

·         Anghydraddoldebau canlyniadau

·         Enghreifftiau o dlodi

·         Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio

·         Cyflawni’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud

·         Canlyniadau gwell

·         Astudiaeth achos

·         Defnyddio’r Ddyletswydd

·         Ar ôl y Ddyletswydd

 

Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi a oedd yn cysylltu ag un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor.   Roedd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd.   Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd y Cyngor yn ei wneud am blant oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim oedd yn gorfod hunan-ynysu oherwydd bod aelod o’u pod yn cael prawf positif weithiau ar sawl achlysur.    Roedd y Rheolwr Budd-daliadau wedi cadarnhau oherwydd yr holl waith a wneir yn ystod y cyfnod clo y llynedd ar daliadau uniongyrchol i deuluoedd a chefnogi Llywodraeth Cymru, roedd yr angen i dalu lwfans prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol wedi eu galluogi i wneud taliadau uniongyrchol i’r teuluoedd pan oedd plentyn yn gorfod hunan-ynysu.

 

Mewn ymateb i sylw a wnaed gan y Cynghorydd Marion Bateman ar dlodi digidol, dywedodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol fel rhan o Gynllun y Cyngor roeddent yn edrych ar ddatblygu Pencampwyr a fyddai’n mynd gyda dyfeisiau a chefnogi pobl i fynd ar-lein.    Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau yn y cyfamser, roedd staff Sir y Fflint yn cysylltu yn gallu sganio ac e-bostio dogfennau a hefyd llenwi ffurflenni yn electronig ar eu rhan.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Marion Bateman yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cunnigham.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau am barodrwydd y Cyngor i fodloni’r ddyletswydd newydd.