Mater - penderfyniadau

Arosfa Update

21/12/2021 - Arosfa Update

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd bod Arosfa yn wasanaeth sefydledig sy’n darparu gwyliau byr dymor a seibiant ar gyfer plant gydag anableddau. Cafodd adain chwith nad oedd yn cael ei ddefnyddio yn Arosfa ei ailwampio i ddarparu dau le ychwanegol yn y cyfleuster, a roedd y llefydd hyn yn rhoi lle i hyd at bedwar o blant gan ddefnyddio modelau gofal hyblyg a gofal a rennir.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y gwasanaeth ychwanegol yn ychwanegiad i’r darpariaeth seibiant byr cyfredol ar gyfer hyd at dri o blant ar unrhyw adeg. Gyda’i gilydd, bydd y cynlluniau yn galluogi’r Cyngor i gefnogi uchafswm o bedwar o blant ar un tro.

 

            Bydd y ddarpariaeth o ddau le ychwanegol ar gyfer seibiant gofal a rennir yn rhan o fwriad strategol y Cyngor i leihau dibyniaeth ar Leoliadau drud y Tu Allan i’r Sir, a byddai’n galluogi Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc o fewn y sir.  Byddai’n cynyddu’r cynhwysedd cyfredol sydd gan Sir y Fflint a mwy o ddarpariaeth gofal seibiant o fewn gweledigaeth yr uchelgais strategol.

                       

PENDERFYNWYD:

 

I gydnabod y cynnydd a wnaethpwyd yn Arosfa, a’r cyfle i ddarparu cefnogaeth hyblyg ychwanegol ar gyfer hyd at bedwar o blant a’u teuluoedd, gyda'r bwriad o gadw teuluoedd gyda’i gilydd ac yn agosach i’w cartrefi, ac i gael cefnogaeth.