Mater - penderfyniadau
Annual Report of the Adjudication Panel for Wales for 2018/19
22/04/2022 - Annual Reports of the Adjudication Panel for Wales for 2018/19 and 2019/20
Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro ddiweddariad ar lafar ar Adroddiadau Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, a chrynhoi dwy rôl statudol a chyfansoddiad Panel Dyfarnu Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y cynhaliwyd un tribiwnlys achos yn ystod 2018/19 a oedd yn ymwneud â Chyngor Sir Fynwy (Cyngor Cymuned Matharn ar hyn o bryd) a chynhadledd ffôn yn ymwneud â’r un gwrandawiad. Ni ystyriwyd unrhyw apeliadau gan yr Uchel Lys ac ni wnaethpwyd unrhyw gwynion ffurfiol yn erbyn Panel Dyfarnu Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at wrandawiad yr achos, y canlyniad a chost yr achosion tribiwnlys ar gyfer 2018/19.
Wrth gyfeirio at Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2019/20, dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod 3 tribiwnlys achos wedi’u cynnal yn sgil atgyfeiriadau gan yr Ombwdsman. Ni ystyriwyd unrhyw apeliadau gan yr Uchel Lys. Adroddodd ar yr achosion a benderfynwyd fel y crynhoir yn yr adroddiad. Cyflwynwyd un cais i apelio i Banel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â chosb a ddyfarnwyd gan Bwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol a daeth yr apêl i ben yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol. I gloi, cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at gyfanswm gwariant Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2019/20.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad.