Mater - penderfyniadau
Draft Statement of Accounts 2020/21
11/10/2021 - Draft Statement of Accounts 2020/21
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Datganiad Cyfrifon Drafft ar gyfer 2020/21 (yn amodol ar archwiliad) er gwybodaeth yn unig ar hyn o bryd. Roedd y rhain yn cynnwys cyfrifon y Gr?p, gan gynnwys ei is-gwmnïau dan berchnogaeth lwyr, a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Yn dilyn cyfnod ymgynghori a fyddai'n agored i'r holl Aelodau, byddai'r Pwyllgor yn derbyn y cyfrifon archwiliedig i'w cymeradwyo'n derfynol ym mis Medi cyn eu cyhoeddi o fewn y dyddiad cau statudol. Rhoddwyd diweddariad hefyd ar newidiadau o fewn y tîm Cyllid.
Cafwyd cyflwyniad ar y cyd gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Rheolwyr Cyllid Strategol ar y canlynol:
· Pwrpas y chefndir y cyfrifon
· Cynnwys a throsolwg
· Cyfrifoldeb am y cyfrifon
· Cysylltiadau â Monitro’r Gyllideb
· Effaith Covid-19
· COVID-19 – Cyllid Grant Argyfwng
· Penawdau – Cronfa'r Cyngor (Refeniw), Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn, Cyfalaf a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT)
· Newidiadau i Gyfrifon 2020/21
· Gr?p Llywodraethu Cyfrifon
· Amserlen a Chamau Nesaf
Talodd y Prif Weithredwr deyrnged i'r gwaith a wnaed gan y tîm Cyllid wrth ymgysylltu â Llywodraeth Cymru (LlC) i wneud y mwyaf o hawliadau am arian grant Caledi trwy gydol y sefyllfa argyfwng. Roedd y canlyniad cadarnhaol ar gronfeydd wrth gefn refeniw yn rhannol oherwydd bod nifer o gynlluniau wedi'u gohirio oherwydd yr argyfwng a fyddai'n cael eu dwyn ymlaen i 2021/22 ynghyd â risgiau sylweddol yn ystod y flwyddyn fel penderfyniadau cenedlaethol heb eu hariannu ar ddyfarniadau cyflog.
Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i swyddogion am eu gwaith ar y cyfrifon ac am y gefnogaeth a roddwyd i breswylwyr yn ystod blwyddyn eithriadol o heriol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, rhannodd swyddogion Cyllid wybodaeth bellach ar gyfrifo hawliadau cyllid grant Caledi gan gynnwys enghreifftiau o grantiau wedi'u clustnodi a hawliadau ar gyfer y cynllun Profi, Olrhain ac Amddiffyn ar ran y rhanbarth. Rhoddwyd eglurhad hefyd ar y broses i amcangyfrif ffigur y cyfrif absenoldebau cronedig a chyflwyniad cyfraniadau o gronfeydd wrth gefn a drosglwyddwyd i Gyllid Canolog a Chorfforaethol yn y cyfrifon. Roedd enghreifftiau o gyfraniadau na chydnabuwyd fel incwm eto yn cynnwys rhwymedigaethau cynllunio Adran 106.
Cymeradwyodd Sally Ellis gyflawniadau ar y Rhaglen Gyfalaf er gwaethaf aflonyddwch oherwydd yr argyfwng. Nododd yr ansicrwydd ynghylch rhagolygon ariannol tymor canolig y Cyngor a gynyddwyd ymhellach gan yr argyfwng ac amlygodd ôl-ddyledion rhent ac ôl-ddyledion Treth y Cyngor fel meysydd risg penodol. Mewn ymateb, dywedodd swyddogion yr adroddwyd ar gario cyllid ymlaen ar y Rhaglen Gyfalaf wrth fonitro’r gyllideb a bod incwm a gollwyd o lefelau casglu Trethi Cyngor yn cael ei ategu gan gyllid grant ychwanegol gan LlC, a byddai'r balans yn cael ei ychwanegu at gronfeydd wrth gefn. Wrth gyfrifo grantiau cymorth busnes, mae nodyn 32 yn y cyfrifon yn nodi trefniadau lle'r oedd y Cyngor wedi gweithredu fel asiant ar ran trydydd partïon.
Wrth gydnabod yr heriau o'r argyfwng, dywedodd Matt Edwards fod swyddogion y Cyngor wedi cynnal ymgysylltiad cadarnhaol â chydweithwyr Archwilio Cymru yn ystod y broses archwilio ac y byddai'r Gr?p Llywodraethu Cyfrifon yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i gyflawni'r amserlen. Mewn ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford ar rwymedigaethau Pensiwn, rhoddodd sicrwydd bod y tîm archwilio yn gweithio trwy'r broses sefydledig i geisio sicrwydd o'r rhagdybiaethau yn y cyfrifon.
Byddai ymatebion llawn i'r cwestiynau a godwyd yn ystod yr eitem a thrwy gydol y cam ymgynghori yn cael eu rhannu gyda'r Pwyllgor ac Aelodau etholedig.
Manteisiodd y Cynghorydd Paul Johnson ar y cyfle i ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â chynhyrchu'r cyfrifon am eu cyfraniadau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Martin White a'u heilio gan Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi Datganiad Cyfrifon drafft 2020/21 (sy’n cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol); a
(b) Bod yr Aelodau yn nodi’r cyfle i drafod unrhyw agwedd ar y Datganiad Cyfrifon Drafft gyda swyddogion neu Archwilio Cymru o fis Gorffennaf i fis Awst, cyn i’r fersiwn archwiliedig derfynol ddod yn ôl gerbron y Pwyllgor i’w chymeradwyo ar 8 Medi 2021.