Mater - penderfyniadau
Commencement of the Socio-economic Duty
24/06/2021 - Commencement of the Socio-economic Duty
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol adroddiad ar baratoadau’r Cyngor at pan fydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn dechrau. Roedd hwn yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau yn deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol a’r Rheolwr Budd-Daliadau gyflwyniad ar y cyd ar y canlynol:
· Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?
· Termau allweddol
· Anghydraddoldebau canlyniadau
· Enghreifftiau o dlodi
· Dangos sylw dyledus - trywydd archwilio
· Bodloni’r ddyletswydd – yr hyn rydym yn ei wneud
· Canlyniadau gwell
· Astudiaeth achos
Roedd y Rheolwr Budd-Daliadau yn croesawu’r ddeddfwriaeth i helpu i gefnogi gwaith ar drechu tlodi, oedd yn un o’r meysydd blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor. Tynnodd y cyflwyniad sylw at y rhwymedigaethau ychwanegol sydd eu hangen yn y sector cyhoeddus i gyflawni’r Ddyletswydd, nad oedd o anghenraid yn golygu costau ychwanegol. Roedd ystyried ac ymgynghori’n gynnar yn allweddol i sicrhau bod lleisiau’n cael eu clywed a bod tystiolaeth yn cael ei chasglu.
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y cyflwyniad ac mewn ymateb i gwestiwn, rhoddodd wybodaeth am y broses ymgynghori i gasglu a deall data i lywio darpariaeth y gwasanaeth.
Wrth gynnig yr argymhellion, mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei bryder nad oedd y Ddyletswydd wedi ei blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru i’w rhoi ar waith yn gynharach. Roedd y Cynghorydd Ron Davies yn cytuno, ac felly eiliodd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau am barodrwydd y Cyngor i fodloni’r ddyletswydd newydd.