Mater - penderfyniadau

Review of the Council's Constitution / Audit Committee’s Terms of Reference

25/04/2022 - Review of the terms of reference of the Audit Committee

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor o’r gofynion yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (adrannau 116-118) a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i newid enw’r Pwyllgor Archwilio i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.  Yn atodedig wrth yr adroddiad oedd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgor Archwilio a oedd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu ail-enwi’r Pwyllgor ac i gynnwys y swyddogaethau newydd wrth fynd ymlaen, fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol bod y cylch gorchwyl hefyd wedi’i ddiweddaru i fynd i’r afael â’r newidiadau ychwanegol a fyddai’n ofynnol i gyfansoddiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o dan ei enw newydd ym mis Mai 2022.  Byddai’r newidiadau hyn yn cynnwys penodi aelod lleyg ychwanegol a hefyd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sy’n aelod lleyg.

 

Adroddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol bod y Cylch Gorchwyl drafft wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio cyn cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd heddiw ac roedd y newidiadau arfaethedig i’r cylch gorchwyl wedi cael eu cydnabod.  Os oedd y Pwyllgor yn penderfynu eu derbyn, byddent yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir ar 1 Ebrill am gymeradwyaeth.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’i eilio gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

 Bod y cylch gorchwyl diweddaraf fel y’i hatodwyd wrth yr adroddiad gan gynnwys enw diwygiedig Pwyllgor Archwilio'r Cyngor a’r swyddogaethau newydd fel y’u nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cael eu cydnabod.