Mater - penderfyniadau
Overview of Ethical Complaints
20/09/2021 - Overview of Ethical Complaints
Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad rheolaidd ar nifer y cwynion moesegol yn honni toriad o’r Cod Ymddygiad a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW). Roedd y wybodaeth yn ddienw gyda chyfeirnodau wedi’u clustnodi er mwyn gwahaniaethu rhwng Cynghorau a Chynghorwyr unigol.
Cafwyd eglurhad gan y Swyddog Monitro yngl?n â phwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor. Gan ymateb i sylwadau yngl?n â chadeirio cyfarfodydd, roedd yn cytuno i gysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) er mwyn holi yngl?n â’r posibilrwydd o sesiwn hyfforddi neu fideo i helpu Cadeiryddion Cynghorau Tref/Cymuned i gynnal ymddygiad yn ystod cyfarfodydd, a allai helpu i leihau nifer y cwynion.
Cynigiodd Gill Murgatroydy y dylid derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r nifer a’r math o gwynion.