Mater - penderfyniadau

Food Poverty

21/12/2021 - Food Poverty

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor wedi bod yn mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd o ran bwyd yn Sir y Fflint ers haf 2018.  Roedd y strategaeth tlodi bwyd wedi’i mabwysiadu gan Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus, a Chyngor Sir y Fflint oedd yr arweinydd rhanbarthol. 

 

Roedd heriau sylweddol wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf, fodd bynnag, yn hytrach na llesteirio’r cynnydd, roedd cyfleoedd wedi cael eu creu ac roedd hynny wedi golygu bod modd rhoi rhai o uchelgeisiau’r dyfodol o ran cyflenwi a thrawsnewid busnes ar waith yn gynt.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod manylion llawn y gwaith a wnaed wedi’u cynnwys yn yr adroddiad:

 

·         Cefnogaeth yn ystod Gwyliau’r Ysgol;

·         Rhaglen Crochan Araf;

·         Prydau Ysgol Am Ddim - Cyflenwi Amgen;

·         Cefnogaeth Bwyd i Breswylwyr Diamddiffyn a’r rhai oedd yn Gwarchod eu hunain - 14 Ebrill 2020 - 16 Awst 2020;

·         Cefnogaeth Bwyd i Breswylwyr Diamddiffyn a’r rhai oedd yn Gwarchod eu hunain - 17 Awst 2020 - 22 Medi 2020;

·         Bocs Bwyd Bwyta’n Dda am Bris Llai - 23 Medi 2020 - 3 Tachwedd 2020;

·         Bocsys Bwyd Nadolig;

·         Preswylwyr oedd yn Hunan-ynysu ac yn Gwarchod eu hunain;

·         Cynllun Gwaith – Ymchwil;

·         Bwyta’n Dda o Adref Cynllun Bocs Prydau - Ailfeddwl ‘Pryd ar Glud’;

·         Canolfannau Bwyd Da - Cefnogaeth Bwyd mewn Argyfwng;

·         Adre o'r Ysbyty - Bocs Diogelwch Bwyta’n Dda;

 

Cafwyd manylion am y prosiectau a ganlyn hyn i’r dyfodol hefyd:

 

·         Agor siop;

·         Ailedrych ar y Cynllun Peilot Crochan Araf;

·         Ffrwythau am ddim i Ysgolion Uwchradd;

·         Cynhadledd;

·         Meithrin Gallu Cymunedol; a

·         “Hawl i Fwyd Da”;

 

Mewn perthynas â “Hawl i Fwyd Da”, eglurodd y Prif Swyddog bod yr ymchwil a gynhaliwyd wedi ystyried sut y gellid diogelu cymunedau orau a sut y gellid cefnogi diet a lles preswylwyr yn y tymor hwy.  Ychwanegodd nad oedd yr hawl i fwyd da yn ymwneud ag elusen, ond am sicrhau bod gan bobl y gallu i fwydo eu hunain yn urddasol. 

 

Soniodd am y gefnogaeth wych a roddwyd gan grwpiau gwirfoddol lleol a oedd wedi cael effaith fawr ar gymunedau lleol ac yn ei dro roedd hyn wedi dod â phobl at ei gilydd.

 

            Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â thlodi bwyd a oedd yn dangos bod Cyngor Sir y Fflint yn Gyngor sy’n gofalu.   Roeddent hefyd yn croesawu’r canolbwynt ar goginio cartref a bwyd maethlon wedi’i goginio’n ffres.  Fe wnaethant ddiolch i’r grwpiau o wirfoddolwyr ledled y Sir sydd wedi darparu cefnogaeth i’w cymunedau lleol hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Croesawu a nodi’r cynnydd a wnaethpwyd wrth fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn Sir y Fflint;

 

(b)       Cefnogi’r gwaith parhaus a’r cynllun cyflenwi am y 12 mis nesaf; a

 

(c)        Chefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi “Hawl i Fwyd” ar gyfer Sir y Fflint.