Mater - penderfyniadau

Town Centre Regeneration

21/12/2021 - Town Centre Regeneration

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor yn cael cyllid cynnal a chadw ac atgyweirio ychwanegol i ysgolion gan Lywodraeth Cymru.

 

            Roedd y grant, sydd ar sail fformiwla, yn £2.526,501 ac ar gyfer prosiectau cynnal a chadw cyfalaf o fewn ysgolion yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i adolygu a chytuno ar raglen drafft fel y gellir symud prosiectau unigol gydag hwylustod. Roedd y rhaglen ddrafft wedi’i atodi i’r adroddiad hwn.

 

            Mae dau brosiect wedi’i enwebu yn Ysgol Castell Alun. Roedd y cyntaf i gymryd lle y Llain Pob Tywydd gan nad oes modd ei ddefnyddio ar hyn o bryd.Roedd ailosod Llain Pob Tywydd yn hanfodol i ddarparu cwricwlwm Addysg Gorfforol, yn arbennig yn ystod misoedd y Gaeaf. Yr ail oedd ailwampio yr ardal gerddoriaeth a oedd yn etifeddiaeth i’r prosiect buddsoddi cyfalaf presennol yn yr ysgol. Roedd rhaid cyflawni gwaith helaeth na ragwelyd i do yr ardal gerddoriaeth i’w wneud yn ddiogel ac i sicrhau ei fod yn dal d?r. Wrth wneud hyn, nid oedd cyllideb y prosiect yn ddigonol i gwblhau’r cynnig i ailwampio’r ardal gerddoriaeth oddi tanodd. Roedd darpariaeth wedi’i wneud i gytundeb adeiladu i ychwanegu’r eitemau o bydd cyllid a chymeradwyaeth yn cael ei ganiatáu. Wrth wneud hynny roedd arbedion effeithlonrwydd a chostau tendro a rhagarweiniol.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar y sefyllfa yng Nghanolfan Enfys lle roedd gwall ar y to, a llifogydd wedi effeithio ar Ysgol Gynradd Queensferry.

           

PENDERFYNWYD:

 

Bod y rhaglen atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion yn cael ei chymeradwyo.