Mater - penderfyniadau
Council Plan 2021/22
29/03/2021 - Council Plan 2021/22
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad am ddrafft Rhan Un o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22. Cafodd y fframwaith dechreuol hwn ei adeiladu o amgylch strwythur newydd chwe thema (pob un â blaenoriaethau ac is-flaenoriaethau):
· Economi
· Addysg a Sgiliau
· Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd
· Tai Fforddiadwy a Hygyrch
· Lles Personol a Chymunedol
· Tlodi
Ar hyn o bryd, roedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn adolygu cynnwys eu meysydd blaenoriaeth ac is-flaenoriaeth perthnasol cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet. Y dull a gytunwyd oedd i Bwyllgorau graffu ar berfformiad eu meysydd perthnasol wrth gadw trosolwg ar Gynllun y Cyngor i gyd. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried gweithredu fel arweinydd ar gyfer thema Tlodi, a oedd yn cynnwys nifer o is-flaenoriaethau a oedd yn croesi ar draws portffolios.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol bod y themâu wedi’u halinio’n agos ag Amcanion Lles, a bod y Cynllun wedi’i groesawu’n fawr gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu hyd yma. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar Ran Dau Cynllun y Cyngor a fyddai’n cael ei rannu gydag Aelodau cyn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor erbyn mis Mai.
Siaradodd y Cynghorydd Jones am bwysigrwydd ffordd effeithiol o fesur yn erbyn targedau, a deall newidiadau yn y fformat o’r flwyddyn flaenorol. Gan ymateb i sylwadau am gysonder â chynlluniau cenedlaethol, dywedodd y Prif Weithredwr y dylai’r ddogfen gwmpasu beth allai’r Cyngor ei ddarparu fel yr unig gorff cyhoeddus neu’r corff cyhoeddus arweiniol. O ran blynyddoedd blaenorol, byddai adroddiadau monitro perfformiad yn dangos cynnydd yn erbyn cerrig milltir a chanlyniadau gwirioneddol, wedi’u cefnogi gan ddata a Dangosyddion Perfformiad Allweddol lle roeddent ar gael/yn bosibl.
Eglurodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y byddai Rhan Dau Cynllun y Cyngor yn cefnogi camau gweithredu a nodwyd trwy gynnwys mesuriadau, tasgau a risgiau.
Gan ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Collett ar thema Tlodi, gofynnodd y Prif Weithredwr i’r swyddogion gyfeirio dan ‘Tlodi Incwm’ at gefnogaeth sydd ar gael, fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Byddai pryderon y Cynghorydd Collett am rhent teg yn y sector tai preifat yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau.
Siaradodd y Cynghorydd Roberts o blaid yr adroddiad a’r dull o ddelio â materion trawsbynciol.
Croesawodd y Cynghorydd Johnson waith ar eiddo gwag a siaradodd am y potensial i wella mannau gwyrdd ar ystadau sy’n eiddo i’r Cyngor. Awgrymodd y Prif Weithredwr fod hyn yn cael ei gyfeirio at Fwrdd Aelodau Lleihau Carbon Newid Hinsawdd Cyngor Gwyrdd, sy’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd. Siaradodd y Cynghorydd Thomas o blaid hyn, ynghyd â chamau gweithredu ehangach i ddarparu buddion amgylcheddol.
Amlygodd y Cynghorydd Banks effaith mentrau tlodi tanwydd ar gymunedau.
Wrth dderbyn cynnwys Cynllun y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod hefyd yn bwysig ystyried cysonder fframwaith Cynllun y Cyngor ar y cam hwn. Gan ymateb i awgrym gan y Prif Weithredwr, cynigiodd bod y Pwyllgor yn arwain ar thema Tlodi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Collett.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi drafft Rhan Un Cynllun y Cyngor 2021-22 cyn ei rannu â’r Cabinet ym mis Mawrth 2021; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cael ei gydnabod fel arweinydd thema Tlodi.