Mater - penderfyniadau

School Attendance and Exclusions

24/09/2021 - School Attendance and Exclusions

            Cyflwynodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu (Ymgysylltu) drosolwg o bresenoldeb mewn ysgolion a gwaharddiadau ar gyfer blwyddyn 2019/20, a gafodd eu heffeithio gan y pandemig, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.  Rhoddodd wybodaeth am y tueddiadau a welwyd ar gyfer presenoldeb, absenoldeb rheolaidd a pharhaol a gwaharddiadau cyfnod penodol a amlygwyd gan Estyn. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y tabl a ddangosai waharddiadau cyfnod penodol a gofynnodd pa brosesau sy’n bodoli er mwyn deall pam y gwelir cynnydd yn y ffigurau hyn a pha gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â nhw.  Wrth ymateb, rhoddodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am y gwaith mae’r tîm yn ei wneud, sy’n fwy rhagweithiol, gan weithio gyda phlant, teuluoedd, penaethiaid a chymunedau er mwyn deall materion yn well yn gynharach. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)    Y dylid nodi’r data presenoldeb ar gyfer ysgolion Sir y Fflint a’r camau gweithredu a gymerwyd gan swyddogion i gefnogi mesurau ymgysylltu a diogelu yn ystod y cyfnod clo; a

 

 (b)    Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod cyfnod clo COVID-19 a chau ysgolion wedi effeithio ar y data a ddarparwyd.