Mater - penderfyniadau
Recovery Strategy Update (EY &C )
24/09/2021 - Recovery Strategy Update
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi cipolwg ar y gwaith cynllunio ar gyfer adfer ym mhortffolio’r Pwyllgor hwnnw. Cyfeiriodd at gofrestr risg y portffolio a’r camau lliniaru risg sydd ynghlwm wrth yr adroddiad a soniodd am y risg fwyaf sylweddol; cyllid i ysgolion uwchradd, a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod.
Roedd y Cadeirydd yn uchel ei glod am y gefnogaeth a gafodd ysgolion gan y tîm Adnoddau Dynol a gofynnodd a ellid estyn gair o ddiolch iddyn nhw gan y Pwyllgor.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan Mrs Rebecca Stark a’r Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Gofrestr Risg wedi’i diweddaru a’r Camau Lliniaru Risg, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad.
.