Mater - penderfyniadau
Recovery Strategy Update
29/03/2021 - Recovery Strategy Update
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar gofrestr risg portffolios Corfforaethol a dulliau lliniaru fel rhan o’r broses cynllunio adfer.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol drosolwg o’r prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios perthnasol.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Jones, rhoddodd swyddogion eglurhad am y sgôr risg ar gyfer CF18, sy’n ymwneud ag effaith ariannol y sefyllfa frys. O ran gostyngiad o ran lefelau casglu Treth y Cyngor (CF08), roedd y duedd o ran risg a’r risg waelodol yn adlewyrchu’r effaith o’r sefyllfa frys, a oedd yn cael ei lliniaru ar hyn o bryd trwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru (LlC).
Diolchodd y Cynghorydd Mullin i swyddogion a mynegodd bryderon am effaith y sefyllfa frys am lwyth gwaith gweithwyr, a lefelau casglu Treth y Cyngor yn y dyfodol hefyd. O ran gweithlu, nodwyd y bu cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn dilyn cyrsiau sy’n ymwneud â straen.
Ar gais y Cynghorydd Heesom, cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i ddarparu rhagor o wybodaeth i Aelodau am y broses o newid i ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd o bell.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn derbyn y gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol.