Mater - penderfyniadau

Town centre regeneration

16/02/2022 - Town centre regeneration

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth gefndirol a chyflwynodd yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr heriau presennol sy’n wynebu canol trefi a’r ymatebion rhanbarthol a lleol sy’n cael eu rhoi ar waith.  

 

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad gan amlinellu’r cyd-destun strategol, dull strategol Sir y Fflint o adfywio canol trefi a’r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd i’w gefnogi, a’r rhaglenni gwaith sydd ar y gweill yn Sir y Fflint.  Eglurodd fod yr adroddiad hefyd yn cynnig mwy o bwyslais ar ymyrraeth i greu defnydd mwy cynaliadwy o eiddo yng nghanol trefi.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Shotton sylwadau am eiddo gwag a blêr mewn trefi ac ar y goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer buddsoddiad yn nhrefi Sir y Fflint.  Er ei fod yn croesawu’r cyllid oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru, dywedodd ei fod un ai angen ei ad-dalu neu arian cyfatebol a gofynnodd a fyddai hyn yn broblem i’r Cyngor yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y byddai’r rhaglen orfodi yn dechrau ym mis Mehefin eleni i osod rhaglen waith realistig a chadarn o ran eiddo gwag. O ran y pryderon am gyllid a fynegwyd gan y Cynghorydd Shotton, cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio, pan oedd arian grant ar gael, roedd angen isafswm o 30% o gyllid gan ffynhonnell arall a byddai angen talu benthyciad yn ôl. Os na ellid dod o hyd i arian cyfatebol, ni allai’r Cyngor gymryd rhan mewn prosiectau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon na fyddai siopau ar gael mewn canol trefi yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at gyllid oedd ar gael i’w fuddsoddi yn nhrefi Sir y Fflint gan holi a oedd cyllid ar gael ar gyfer Canol Tref Bwcle, gan enwi adfer Baddonau Cyhoeddus Bwcle fel prosiect oedd angen cyllid brys. Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) at ddatblygiad cynlluniau gweithredu ar gyfer pob canol tref i ddangos i gyllidwyr sut oedd pecyn eiddo ac ymyraethau (eraill) yn ffitio gyda’i gilydd yn un.   Dywedodd fod angen awgrymiadau gan y gymuned leol i ddechrau i benderfynu ar y prosiectau i’w dwyn ymlaen. Ymatebodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Menter ac Adfywio i’r Cynghorydd Hutchinson hefyd ar ei gais penodol am gymorth â chyllid i adfer Baddonau Cyhoeddus Bwcle.

 

Mynegodd y Cynghorydd Chris Bithell nifer o bryderon am y cyllid oedd ar gael ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan ofyn a fyddai’r cyllid yn dal ar gael am beth amser fel bod asesiadau’n cael eu gwneud yn llawn ar geisiadau i’r dyfodol.

 

Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd o ran cyflawni’r blaenoriaethau ar gyfer adfywio canol tref a gytunwyd yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mawrth 2020;

 

(b)       Nodi’r goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer cyflawni’r rhaglen ac ystyried eu cynnwys yn natblygiad y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Rhaglen Gyfalaf; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i wneud cynnig am arian allanol wrth iddo ddod ar gael i gefnogi'r dulliau o adfywio canol trefi a nodir yn yr adroddiad.