Mater - penderfyniadau
Schools Covid Lessons Learned & Risk Assessments
07/06/2021 - Schools Covid Lessons Learned & Risk Assessments
Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad a diolchodd i’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol a’r Tîm Iechyd a Diogelwch am y gefnogaeth a ddarparwyd i ysgolion yn ystod y sefyllfa argyfwng. Amlinellodd y newidiadau a oedd wedi’u cyflwyno o ran asesiadau risg a rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod ysgolion yn gweithio’n ddiogel ac yn monitro’r sefyllfa’n barhaus.
Adroddodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol am y cyngor a chymorth a ddarparwyd i Ysgolion a dywedodd bod pob asesiad risg ysgol wedi’i adolygu ddwywaith a bod adborth ac argymhellion clir wedi’u darparu lle bo angen. Yn dilyn yr adolygiad o asesiadau risg ysgolion ar ddiwedd tymor yr hydref, roedd y Tîm Iechyd a Diogelwch wedi cynhyrchu adroddiad a oedd yn crynhoi’r gwersi allweddol a ddysgwyd. Roedd hyn wedi’i rannu gyda phob ysgol i sicrhau gwelliant parhaus o’r broses asesu risg. Roedd manylion am y gwersi a ddysgwyd wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Diolchodd Mr. David Hytch i’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol am y gefnogaeth a ddarparwyd i ysgolion yn ystod y sefyllfa argyfwng. Soniodd am y ddogfen gwersi a ddysgwyd yn Atodiad 1 a gofynnodd a oedd yn briodol i lywodraethwyr ysgol gynnal archwiliadau diogelwch o eiddo ysgol a mynegodd bryderon am y risgiau iddynt. Cytunodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod hyn yn anodd ar hyn o bryd a bod y Tîm Iechyd a Diogelwch yn cyfyngu ar nifer eu harchwiliadau ar hyn o bryd hefyd. Er ei bod yn anodd cynnal archwiliadau ffisegol, gallai llywodraethwyr adolygu dogfennau a chynnal trafodaethau gyda staff yn lle hynny, er mwyn canfod a oedd pethau’n gweithio ai peidio. Eglurodd y Prif Swyddog fod hwn yn argymhelliad nid cyfarwyddeb, a byddai’n digwydd dim ond os oedd yr unigolyn yn fodlon ymweld ag eiddo’r ysgol a’i bod yn ddiogel gwneud hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn croesawu’r sicrwydd a ddarparwyd bod gan ysgolion asesiadau risg cadarn ar waith a mesurau rheoli effeithiol er mwyn cynnal amgylchedd ysgol diogel; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith y Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol o ran cefnogi ysgolion yn ystod y pandemig a nodi’r gwersi a ddysgwyd hyd yma.