Mater - penderfyniadau
Fleet Electrification
07/02/2022 - Fleet Electrification
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i ystyried y cynigion ar gyfer trydaneiddio’r fflyd. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn nodi uchelgais y gwasanaeth ac yn nodi’r prosiectau amrywiol sy’n cael eu datblygu i gyflwyno cerbydau allyriadau isel i’r fflyd a datblygu seilwaith i gefnogi’r defnydd hwnnw.
Gan gyfeirio at ddatblygu mannau gwefru cerbydau trydan (EV) ar draws y Sir, dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i archwilio manteision mabwysiadu dull rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau cysondeb i ddefnyddwyr y rhwydwaith gwefru EV yng Nghymru. Dywedodd fod 17 safle cychwynnol ar gyfer gosod mannau gwefru cyflym y gallai’r cyhoedd eu defnyddio wedi eu nodi ar draws y Sir.
Gofynnodd y Cynghorwyr Owen Thomas a Dennis Hutchinson gwestiynau ynghylch sut y byddai cerbydau trydan yn cael eu gwefru, y trefniadau ar gyfer gwefru cerbydau trydan os cânt eu cadw yng nghartrefi cyflogeion, a chyfyngiadau parcio oddi ar y stryd. Esboniodd y Prif Swyddog mai’r bwriad oedd y byddai mannau gwefru ar gael mewn depos a dywedodd pan fyddai cyflogeion ar ddyletswydd y byddai mannau gwefru y tu allan i oriau yn cael eu darparu o amgylch y Sir. Dywedodd y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda chynrychiolwyr Undebau Llafur ynghylch sut i hwyluso mannau gwefru yng nghartrefi cyflogeion. Estynnodd y Prif Swyddog wahoddiad i’r Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd i gyflwyno’r adroddiad.
Adroddodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod y galw domestig a masnachol am gerbydau trydan yn cynyddu a soniodd am y datblygiadau sylweddol mewn technoleg. Roedd y cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yn cael eu harchwilio a nododd bysiau, cerbydau casglu sbwriel, ac ysgubwyr ffyrdd fel esiamplau, ac roedd y seilwaith i gefnogi hyn yn cael ei ymchwilio. Dywedodd fod y Cyngor hefyd wedi cysylltu â’i gontractwyr Fflyd i adolygu defnydd a theithiau ei fflyd gerbydau ei hun er mwyn nodi’r lleoliadau gorau posibl ar gyfer ‘canolfannau gwefru’ i gefnogi darparu gwasanaethau. Roedd y contractwr yn adolygu’r data olrhain i nodi cerbydau a theithiau sy’n gweddu orau i gerbydau trydan a’r seilwaith gwefru sydd ei angen i gefnogi symudiadau cerbydau sydd mewn defnydd dyddiol gan wasanaethau unigol. Soniodd hefyd am yr angen i ystyried gallu’r grid lleol i gefnogi twf o’r fath (yn benodol ar adegau penodol o’r dydd).
Dywedodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod y Cyngor yn cynnal trafodaethau gyda’i gyflenwyr Fflyd presennol ynghylch terfyn y contract presennol yn 2023. Roedd dyheadau’r Cyngor a’r cyflenwr yn cael eu trafod i sicrhau bod pob agwedd ar dechnolegau newydd yn cael ei hystyried a’i chynnwys mewn unrhyw estyniad posibl i’r contract i fodloni’r newid mewn caffael y byddai symud i fflyd EV yn ei olygu.
Adroddodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau yn dilyn cais llwyddiannus i gyflwyno nifer cyfyngedig o fannau gwefru EV ar safle Standard Yard, Bwcle. Esboniodd y byddai ehangu’r safle yn y dyfodol yn cynnig cyfle i’r Cyngor ddatblygu ‘Canolfan Trafnidiaeth Gynaliadwy’ ar y safle a fyddai’n cefnogi’r symudiad i fflyd drydan gyfan sy’n cael ei bweru gan ffynhonnell ynni adnewyddadwy ‘cartref’. Adroddodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd ar ddatblygiadau o ran gweithredu bysiau trydan ar rwydwaith bysiau’r Sir, addasrwydd cerbydau gwastraff trydanol, a chyfleoedd i weithio gyda darparwr tanwydd blaengwrt presennol y Cyngor i edrych ar fodelau bilio newydd arloesol.
Adroddodd y Prif Swyddog ar gynnydd ar ddyheadau Tanwydd Hydrogen y Cyngor ac esboniodd fod y Cyngor, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wedi comisiynu ymgynghorwyr i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol Strategol ar gyfer Canolfan Hydrogen bosibl ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Byddai’r comisiwn yn ystyried cynhyrchu a storio hydrogen yn y cyfleuster gyda’r gallu i ddarparu tanwydd i’r Cyngor, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Cynghorau eraill Gogledd Cymru, cerbydau preifat a LGVau sy’n defnyddio ffordd arfordir Gogledd Cymru. Awgrymodd y gallai hyn fod yn eitem y byddai’r Pwyllgor am ei hychwanegu at y Flaenraglen Waith.
Darllenodd y Cynghorydd Chris Dolphin neges o gefnogaeth gan y Cynghorydd Tudor Jones ar uchelgeisiau’r Cyngor o ran hydrogen y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Gofynnodd y Cynghorydd Vicky Perfect a roddwyd ystyriaeth i ddarparu mannau gwefru EV i bobl a oedd am ymweld â Chastell y Fflint a llwybr yr arfordir. Ymatebodd y Prif Swyddog y byddai’r ardaloedd y cyfeiriodd y Cynghorydd Perfect atynt yn yn cael eu hystyried i’w cynnwys yn y cam nesaf ar gyfer cyflwyno mannau gwefru yn y Sir.
Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon ynghylch sut y byddai mannau gwefru yn cael eu monitro i atal pobl rhag parcio cerbydau am fwy o amser nag sydd angen. Esboniodd y Prif Swyddog mai un o’r opsiynau i’w hystyried oedd gwneud y mannau pwrpasol ar gyfer gwefru cerbydau’n ofodau arhosiad byr (uchafswm o 2 awr).
Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i gefnogi’r mentrau a’r cynlluniau sy’n cael eu datblygu fel y nodir yn yr adroddiad a diolchodd i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith a’u hymrwymiad.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Sean Bibby a’i eilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin.
PENDERFYNWYD
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cefnogi uchelgais y Cyngor i gyflwyno cerbydau allyriadau isel ar draws fflyd gerbydau gweithredol y Cyngor.