Mater - penderfyniadau
Revenue Budget Monitoring 2020/21 (month 9) and Capital Programme Monitoring 2020/21 (month 9)
29/03/2021 - Revenue Budget Monitoring 2020/21 (month 9) and Capital Programme Monitoring 2020/21 (month 9)
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym Mis 9, a sefyllfa’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 ym Mis 9 cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Monitro Cyllideb Refeniw
Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai popeth yn aros fel yr oedd, ac roedd yn ystyried sefyllfa ddiweddaraf cyhoeddiadau Grantiau Argyfwng Llywodraeth Cymru.
O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn warged gweithredol o £0.372 miliwn, gan adael balans cronfa wrth gefn a ragwelwyd o £1.787 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Roedd yr amcanestyniad hwn yn cynnwys arbedion a gyflawnwyd trwy adolygu gwariant dianghenraid yn barhaus a rheoli swyddi gwag. Roedd y rhesymau dros y symud ffafriol o £0.102 miliwn o Fis 8 wedi’u nodi yn adran 1.04 yr adroddiad. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau ariannol allweddol a risgiau newydd, yn ogystal â’r sefyllfa ar gyllid argyfwng wedi’i neilltuo, cyflawniad arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, arian wrth gefn a balansau fel y nodwyd yn yr adroddiad.
O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant arfaethedig o £1.641 miliwn yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £3.650 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant.
Yn ystod y cyflwyniad, gofynnodd y Cadeirydd am saib i atgoffa Aelodau am y canllawiau a ddosbarthwyd eisoes ar Gyfarfodydd Mynychu o Bell: dylai pawb sy’n bresennol ymddwyn mor ffurfiol ag y byddent mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir.
O ran risgiau sy’n dod i’r amlwg, dywedodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Thomas fod sylwadau’n cael eu cyflwyno i LlC am adennill y costau adfer cyfalaf o’r llifogydd difrifol diweddar.
Ar ôl cwestiynau, byddai swyddogion yn darparu ymateb ar wahân am y mathau o ddirwyon sy’n ymwneud â’r amrywiant mewn Llywodraethu a’r rheswm dros y cynnydd o ran cronfeydd wrth gefn yswiriant. Byddai eglurhad pellach yn cael ei rannu ar nifer y defnyddwyr gwasanaeth oedd wedi’u heffeithio gan daliadau anghywir dan y Rheoliadau Asesiad Ariannol a’r math o wasanaethau cymorth dan sylw. Byddai ymateb i gais y Cynghorydd Heesom am fanylion cyswllt yn y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i egluro’r symudiad o ran amrywiadau o Fis 8 yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Heesom, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Jones.
Rhaglen Gyfalaf
Y cyfanswm ar gyfer y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020/21 oedd £76.962 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen. Roedd newidiadau yn ystod y cyfnod yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb. Roedd crynodeb o’r sefyllfa am wariant cyfalaf ym Mis 9 yn dangos tanwariant a ragwelir o £4.352 miliwn ar Gronfa'r Cyngor i gael ei ddwyn ymlaen i 2021/22 a sefyllfa o fantoli'r gyllideb ar y Cyfrif Refeniw Tai. Rhoddwyd crynodeb o symiau i’w dwyn ymlaen i 2021/22 ynghyd â rhai dyraniadau ychwanegol fel a nodwyd yn yr adroddiad. Roedd y sefyllfa ar ariannu cynlluniau a gymeradwywyd yn 2020/21 gan gynnwys effaith derbyniadau cyfalaf ac arbedion a gyflawnwyd yn dangos gwarged diwygiedig a ragwelir o £1.267 miliwn. Roedd diweddariad ar Raglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 yn dangos bod y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro wedi cael effaith gadarnhaol o £1.406 miliwn.
Gan ymateb i geisiadau gan y Cynghorydd Jones a’r Cynghorydd Heesom, cytunodd swyddogion i ddarparu dadansoddiad mwy manwl o fuddsoddiad mewn trefi sirol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 Mis 9, fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd i’r Cabinet; a
(b) Ar ôl ystyried Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 Mis 9, fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd i’r Cabinet.