Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )
04/11/2021 - Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Tynnodd sylw at daith rithiol o amgylch Parc Adfer a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod ar 12 Hydref, a gofynnodd i’r Aelodau gysylltu â hi gydag unrhyw awgrymiadau am eitemau yr hoffen nhw eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu a gododd o’r cyfarfodydd blaenorol. Dywedodd fod rhai camau gweithredu heb eu cwblhau hyd yma gan eu bod yn faterion hirdymor a byddai diweddariad yn cael ei roi ynghylch cynnydd ar y materion hyn.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.