Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking

07/02/2022 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Flaenraglen Waith bresennol.  Adroddodd ar yr eitemau sydd i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 9 Mawrth.  Dywedodd y byddai diweddariadau ar y Cynllun Trafnidiaeth Integredig a Newid Hinsawdd yn cael eu hychwanegu at y Flaenraglen Waith fel y bo'n briodol a bod ymweliad rhithwir â Pharc Adfer hefyd i'w  drefnu.   Gwahoddodd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau pellach yr  oeddent am eu cynnwys ar y Rhaglen.  Awgrymodd y Cynghorydd Chris Dolphin y dylid trefnu eitem ar Lwybrau Cyhoeddus/Hawliau Tramwy i'w hystyried  yn y dyfodol a chytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

Gan gyfeirio at yr eitem ar wasanaethau trên y gororau gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd unrhyw gynnydd o ran trydaneiddio lein Wrecsam i Bidston. Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) ddiweddariad byr a dywedodd fod nifer o opsiynau’n cael eu hystyried gan gynnwys trenau batri.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cyflwyno adroddiad ar Bolisi Cynnal a Chadw’r Gaeaf i gyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Medi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson i ddiweddariad am sbwriel a thipio anghyfreithlon gael ei hychwanegu at y Flaenraglen Waith.

 

Adroddodd yr Hwylusydd ar gynnydd yn y camau gweithredu sy’n deillio o gyfarfodydd blaenorol. Cwblhawyd rhai camau gweithredu ac mae’r cynnydd yn mynd rhagddo ar y gweddill.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at waith ar Glefyd Coed Ynn a mynegodd bryderon ynghylch cau’r A541. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’n trefnu i ddiweddariad ar raglen Clefyd Coed Ynn gael ei ddarparu i’r Cynghorydd Thomas yn dilyn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Evans ar dreial y rhaglen tyllau ar y ffyrdd, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai’n darparu adroddiad ar ganlyniadau’r treial i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Thomas at ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru - Cymru Ddi-sbwriel a Di-dipio a oedd ar agor tan fis Ebrill.

 

Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a allai’r Awdurdod roi cymorth i gynghorau tref/cymuned lleol a oedd wedi dioddef llifogydd a gofynnodd i eitem ar hyn gael ei threfnu ar y Flaenraglen Waith. Gofynnodd a ellid darparu dosbarthiad untro o dywod a bagiau tywod i’w defnyddio gan y tîm ymateb yng Nghyngor Cymuned Penarlâg. Mewn ymateb, rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) esboniad ynghylch pam y daeth y polisi bagiau tywod i rym, y costau ynghlwm a hefyd amlinellodd y problemau storio posibl y gallai cymunedau eu hwynebu drwy storio’r bagiau a llawer iawn o dywod. Rhoddodd sicrwydd i Gynghorwyr y byddai cymorth yn cael ei ddarparu pe bai llifogydd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Flaenraglen Waith;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Flaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill.