Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking
04/03/2021 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Cynllun Gwaith o Flaen Llaw diweddaraf. Roedd yn cynnwys nifer o newidiadau ers y cyfarfod blaenorol. O ran tracio gweithrediadau, roedd yr holl gamau a oedd heb eu cyflawni bellach wedi'u cwblhau.
Cynigiwyd i gefnogi’r argymhellion gan y Cynghorydd Eastwood ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies-Cooke.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi'r cynnydd a wnaed i gyflawni’r camau oedd heb eu cwblhau.