Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking
04/05/2022 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Dywedodd y byddai eitem ar Drawsnewid Gwasanaethau Plant yn cael ei hychwanegu at y cyfarfod ar 9 Medi a’u bod yn aros am gadarnhad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pa un a oeddent yn gallu mynychu’r cyfarfod ar 4 Tachwedd. Hefyd, ychwanegodd bod dau adroddiad wedi dod i’r cyfarfod ar 9 Rhagfyr sef Diweddariad ar Daliadau Uniongyrchol ac Adroddiad Diweddariad Gofal Ychwanegol a gwahoddwyd Aelodau i gysylltu os oedd ganddynt unrhyw eitemau yr oeddent yn dymuno eu hychwanegu ar raglenni yn y dyfodol.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad olrhain camau ac hysbysodd yr aelodau eu bod yn aros am lythyr gan BIPBC yngl?n â diffyg apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda MT a Covid Hir. Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw adborth gan y Fforwm Gwasanaethau Plant gan nad oeddent wedi cwrdd ers y cyfarfod diwethaf. Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu eu bod yn dymuno cyfarfod y plant yn gyntaf er mwyn gallu penderfynu pa brif bwyntiau yr oeddent eisiau eu cyflwyno i’r Fforwm.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sy’n weddill.